Eddie Jones
Roedd enw Eddie yn atsain trwy alawon y ddawns werin am flynyddoedd cyn i mi gwrdd â’r bonheddwr o Bow Street. Yn wir bu mi’n gofyn am amser “Pwy yw Eddie Jones?” Rhyfyg fy ieuenctid a’m hanwybodaeth am gewri’r arloeswyr cynnar. Mae’n debyg fod Eddie wedi clywed hyn ac yn Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Lliw 1980 wedi iddo ddyfarnu Cwmni Dawns Werin Caerdydd yn gyntaf yn y brif gystadleuaeth, dyma fe’n cyhoeddi â gwên radlon ar ei wyneb, “Maen nhw’n gwybod pwy yw Eddie Jones nawr!”
Dyn a gwybodaeth eang a chariad mawr at y pethau oedd Eddie. Roedd ei gyfraniad at waith yr Urdd ac addysg plant Cymru yn helaeth, yn enwedig ym maes addysg grefyddol. Fel y dywed ei ferch Nerys Ann yn ei theyrnged iddo yn “Y Tincer”, roedd addewid yr Urdd,
Byddaf ffyddlon i Gymru a theilwng ohoni,
Byddaf ffyddlon i’m cyd-ddyn pwy bynnag y bo,
Byddaf ffyddlon i Grist a’i gariad ef.
yn sylfaen i’w fywyd. Gellir gweld hyn yn cael ei amlygu yn yr wyth cyfraniad sydd o’i eiddo yng Nghaneuon Ffydd.
Ond ym myd y ddawns roedd ei ymroddiad a’i gyfraniad yn arwrol. Does dim syniad ‘da fi sut y gallai creu cymaint. Gwelai fwlch yn y ddarpariaeth o ddawnsfeydd a fodolai ac o fewn dim roedd y gagendor wedi ei lenwi a chyfres o ddawnsfeydd. Creodd gyfrol o ddawnsfeydd gwerin ar gyfer eu perfformio gan y rhai hynny sy’n gaeth i gadair olwyn,”Sgrechian Olwynion” ac eraill wedi eu henwi ar ôl ardaloedd a thrwy hynny yn ateb gofynion gwahanol bwyllgorau eisteddfodol.
Bu am flynyddoedd yn golygu llyfrynnau Cymdeithas Genedlaethol Dawns Werin Cymru, nid yn unig eu golygu ond hefyd yn codi arian er mwyn eu cyhoeddi a hynny “gyda gra’n” fel arferai fy mam-gu ei ddweud. Yn y gwaith hwn daeth i gyd-weithio gyda John Mosedale ac ail gyhoeddwyd, diweddarwyd ac ail olygwyd nifer o gyfrolau gwerthfawr, e.e. Dawnsiau Llanofer, Dawnsiau’r Ugeinfed Ganrif, Dawnsiau Ffair Nantgarw ac ati. Dros y blynyddoedd bu’r ymchwil a wnaeth i gefndir y dawnsfeydd yn ddwfn. Ffrwyth ei lafur oedd y nodiadau i gyd-fynd â’r cyfrolau a gyhoeddwyd. Yn hyn o beth roedd ei wybodaeth am gefndir William Jones a Dawnsfeydd Llangadfan yn destun trafodaeth ac yn sail i lawer sgwrs ddiddorol. Mae ei lyfryn ar William Jones yn gampwaith o ymchwil ac i mi yn sail i ddechrau unrhyw ymdrech i ddehongli beth welodd yr hen William wrth iddo nodi ei sylwadau ar Roaring Hornpipe a’r lleill a cheisio eu disgrifio’n ysgrifenedig.
Do, collodd Cymru un o’i mawrion pan gollodd hi Eddie. Collon ni ddawnswyr gyfaill, bonheddwr ac un a fi’n cyd-gamu’r ddawns. O ydw, rwy’n gwybod pwy yw Eddie Jones, nawr.