Gyda’r tywydd yn cynhesu a’r dyddiau’n ymestyn daeth hi’n adeg gwyliau gwerin yr haf. Dros y misedd nesaf bydd alawon, rhythmau a dawnsiau Cymreig traddodiadol i’w clywed a’u gweld ar hyd a lled Cymru a thu hwnt.
Os ewch i’n tudalen ‘Digwyddiadau’ fe welwch restr o rai o’r digwyddiadau sydd ar y gweill. Wrth gwrs, dim ond y rhai rydym yn ymwybodol ohonynt sydd yma. Os nad yw’ch gŵyl leol chi yn ymddangos, cofiwch gysylltu gyda ni trwy’r dudalen ‘Swyddogion’.
Yn ogystal â’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn Llanelwedd ar 19eg Mai, paratoi ar gyfer Eisteddfod yr Urdd yw prif waith Cymdeithas Dawns Werin Cymru ar hyn o bryd. Bydd ein stondin ar agor gydol yr wythnos, felly cofiwch alw draw am glonc neu baned, a chyfle i brynu rhai o’n cyhoeddiadau. Mae Dil Lewis a’r tîm o wirfoddolwyr wedi bod yn brysur iawn yn trefnu ac yn edrych ymlaen at eich gweld!