Dymuniadau gorau i chi gyd ar ddechrau degawd newydd!

Efallai bod rhai ohonoch wedi addunedu i gadw’n heini… wel cofiwch bod dawnsio gwerin yn ffordd wych o ymarfer corff ac mae’n ffordd hyfryd o gymdeithasu hefyd. Cewch fanylion eich tîm lleol yma: https://dawnsio.cymru/timoedd/

Fe welwch hefyd ei bodfod yn gyfnod yr Hen Galan Cymreig (yn swyddogol ar Ionawr 13eg), ac mae Mari Lwyd a’i ffrindiau yn brysur yn crwydro ar hyd a lled y wlad. Cadwch lygad ar ein ffrwd trydar: CDWC/WDFS @DawnsioGwerin am wybodaeth, hysbysebion ac ambell lun.

Dawnsiwch, dathlwch a mwynhewch!