Mae’n ddechrau blwyddyn newydd ac felly mae golygon nifer o ysgolion, adrannau ac aelwydydd Urdd yn troi tuag at ymarferion eisteddfod. Ydych chi’n ystyried dysgu grŵp dawnsio gwerin i gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2020? Wel beth am fynd amdani oherwydd mae Cymdeithas Ddawns Werin Cymru yma i’ch helpu!
Eleni eto mae gennym sianel YouTube sy’n arddangos fersiynau syml o’r dawnsfeydd i gynorthwyo hyfforddwyr newydd. Fe sylwch hefyd bod trac sain y fideos yn cynnwys mynediad a diweddglo fel bod modd eu defnyddio fel sain cefndir i ymarfer.
Cyn cystadlu cofiwch wirio manylion llawn y dawnsfeydd a’r rheolau cystadlu o wefan Urdd Gobaith Cymru. Yn y cyfamser pob hwyl gyda’r ymarferion a gobeithio welwn ni chi yn Sir Ddinbych!