Dyma flas bach i chi o rai gweithgareddau ym myd y ddawns dros y misoedd diwethaf…
Gŵyl Cerdd Dant Llanelli 2019:
Tachwedd 9fed, 2019— Yn y digwyddiad hwn roedd y darlledu o’r llwyfan ar gyfer y cystadlaethau dawns yn rhagorol. Dangoswyd perfformiad cyflawn pob grŵp i alluogi gwylwyr teledu i benderfynu drostynt eu hunain ym mha safle y byddent hwy yn gosod pob tîm!
Dawns “Y Filltir Sgwâr” a gyfansoddwyd gan Mavis Williams-Roberts er cof am Dai Williams, Arweinydd Dawnswyr Tawerin, oedd y ddawns osod. Y gerddoriaeth gan Eirlys Phillips. Dewisodd pob tîm eu hamrywiad eu hunain i’w berfformio, hynny yn unol â’r cyfarwyddiadau. Ac roedd pob un yn rhoi amrywiad gwahanol o’r ddawns. Yn ogystal â Dawnswyr Nantgarw, Dawnswyr Tawerin a Dawnswyr Talog, roedd hi’n arbennig o hyfryd gweld grŵp dawns cwbl newydd yn ymddangos ar y llwyfan am y tro cyntaf, sef “Dawnswyr Gŵyr”. Pob canmoliaeth i’r grŵp hwn am eu perfformiad ar y llwyfan – gwnaethant ddawnsio gyda llawenydd mawr a chafwyd dawns mewn “arddull wirioneddol werin” yn unol â’r cyfarwyddiadau.
Aeth y wobr gyntaf i Dawnswyr Tawerin – yn briodol iawn gan ei bod yn ddawns a luniwyd fwy neu lai ar gyfer aelodau’r grŵp hwn a’u harddull. Yn ail daeth Dawnswyr Nantgarw, a roddodd arddull hollol wahanol i’r ddawns. Aeth y trydydd safle i Ddawnswyr Talog, a roddodd fersiwn debyg i Tawerin, eto gydag arddull ychydig yn wahanol
Roedd y perfformiadau yn y gystadleuaeth Stepio eto yn hollol wahanol o ran arddull, ond yn nodweddiadol o arddull yr amrywiol grwpiau dawns a ymddangosodd ar y llwyfan. Dyfarnwyd stepwyr profiadol Dawnswyr Talog yn gyntaf; roedd Adran Penrhyd yn ail; ac yn drydydd roedd Clocswyr Cowin. Yn anffodus cafodd pobl ifanc Bro Taf broblemau gyda’u cerddoriaeth ar y llwyfan, ond llwyddon nhw i roi perfformiad gwahanol a diddorol a oedd yn cynnwys baneri.
P’un a ddaethoch yn 1af, 2il, 3ydd, neu wedi profi’r cynnwrf ar y llwyfannu, y peth pwysicaf oedd eich bod wedi cymryd rhan ac wedi mwynhau eich dawnsio.
Dathliadau Pen-blwydd 70 y Gymdeithas Ddawns:
Mae’r adroddiadau ar ddathliadau Penblwydd y Gymdeithas yn 70 oed a gynhaliwyd yn St. Ffagan a Gwesty’r Vale, Morgannwg yn nodi bod y rhai a gefnogodd wedi mwynhau’r digwyddiad yn fawr iawn. Roedd mynedfa Amgueddfa Werin Sain Ffagan yn orlawn o ddawnswyr Cymreig yn y prynhawn, a’r ymwelwyr wrth eu boddau gyda’r wledd o wisgoedd, alawon a dawnsfeydd amrywiol. Gyda’r nos cafwyd cyfle i wledda a thwmpatha, gyda Jean Huw Jones, yn westai anrhydeddus.
Pwyllgor Gwaith CDWC
Cyfarfu Pwyllgor Gwaith y gymdeithas ar 8fed Chwefror, 2020 yn Rhaeadr. Mae’r sefyllfa bresennol yn sgil Covid-19 wedi effeithio ar nifer o’r penderfyniadau, gan gynnwys y cynnig i gefnogi costau teithio timoedd sy’n cytuno i ddawnsio ar ran y Gymdeithas Ddawns ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol. Cytunwyd hefyd i gynnig cymorth ariannol i dimau sy’n bwriadu teithio i wyliau tramor, ar yr amod bod y grwpiau yn aelodau o CDWC ac yn llwyddo i ateb y meini prawf. Cytunwyd y byddai’r Gymdeithas yn rhannu cyfanswm o ddim mwy na £2,000 ar gyfer ceisiadau o’r fath, ac na fydd yr un grŵp yn derbyn mwy na £500 yr un.
Ychydig ddyddiau wedi’r pwyllgor, clywsom y newyddion trist am farwolaeth ein cyn Lywydd, Marion Owen, ar y 10fed o Chewfror. Mae teyrnged er cof amdani a’i holl waith ym myd y ddawns werin Gymreig hefyd i’w gweld ar ein gwefan.
Ymweliad â Karelia a’r Ffindir
Ar ddechrau’r flwyddyn newydd roedd Dafydd a Bobbie Evans yn ffodus i ymweld â rhai o’u ffrindiau yn Karelia a’r Ffindir. Roeddent wedi gobeithio’n fawr y byddai Skylark & Artforge yn gallu teithio i Gymru eleni eto ar gyfer eu 10fed ymweliad â’r Diwrnod o Ddawnsio yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol, ar 11 Gorffennaf (2020). Er bod y Diwrnod o Ddawns yn parhau, oherwydd y pandemig Coronafeirws, ni fydd modd i Skylark & Artforge deithio iddi bellach.
Gwyliau Dawnsio Traddodiadol
Oherwydd y sefyllfa bresennol mae’n bosib y gwelir canslo’r digwyddiadau isod ond dyma grynodeb o’r gwyliau a drefnir gan grwpiau CDdWC yw (gwiriwch yn adran ‘Digwyddiadau’ y wefan am ddiweddariad):
30ain Mai, 2020 Diwrnod o Ddawnsio yn Llangadfan
Cysyllter â : keithapeggy@btinternet.comneu annethprosser028@gmail.com
26ain a 27ain Mehefin 2020 Gwyl Ifan, Caerdydd
Cysyllter â : Rob Parkin robparkin80@gmail.com
11eg Gorffennaf 2020 Diwrnod o Ddawns, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
Mae croeso i bawb p’un ai fel grwpiau neu unigolion. Rwy’n siŵr bod hyn yn berthnasol i’r gwyliau eraill sydd ar ddod. Cysyllter â : R. Evans 01994 484 496 neu e-bost: bobtob@ic24.net
17 Hydref 2020, Diwrnod Dawns Aberystwyth
Cyswllt: Anneth Prosser e.mail: annethprosser028@gmail.com
_________
Roedd tri Grŵp Dawnsio Gwerin yn gobeithio cefnogi’r Ŵyl Ban-Geltaidd 2020 a oedd i’w chynnal unwaith eto yn Carlow, Iwerddon. Dawnswyr Caernarfon o’r gogledd – a hefyd Dawnswyr Tipyn o Bopeth sydd ond wedi colli’r ŵyl hon dair gwaith ers 1987. Roedd grŵp o Gonwy wedi bwriadu teithio i Carlow hefyd.
Mae Gŵyl Carlow bob amser wedi ei threfnu’n dda iawn gyda digon o ddigwyddiadau i’w mwynhau. Yn anffodus, oherwydd y Coronavirus mae’r digwyddiad pwysig hwn bellach wedi ei ohirio.
_______
Eleni mae Dawnswyr Talog yn dathlu eu pen-blwydd yn 40 oed! Hefyd mae grwpiau eraill sy’n agos at Talog yn dathlu pen-blwydd, sef Aelwyd Hafodwenog, hefyd yn 40; a grŵp arall yn yr un cyffiniau, sef Aelwyd Cynwyl Elfed, yn dathlu 10 mlynedd o ddawnsio a chlocsio. Llongyfarchiadau i’r tri grŵp o Sir Gaerfyrddin a diolch yn fawr i’r arweinwyr am eu holl waith caled dros y blynyddoedd.
Diolch i Bobbie Evans am rannu ei chylchlythyr fel sail i’r braslun hwn. Os ydych yn dymuno ychwanegu pwt o newyddion at wefan y Gymdeithas Ddanwns anfonwch e-bost at:
dawnsio.digidol@gmail.com