Tachwedd 2020

Er mwyn cynorthwyo timoedd dawnsio traddodiadol Cymreig sy’n ystyried ail-ddechrau dawnsio yn ystod cyfnod Covid-19, mae Cymdeithas Ddawns Werin Cymru wedi paratoi dogfen asesiad risg i gynorthwyo. Mae’r asesiad risg yn adlewyrchu’r sefyllfa bresennol yng Nghymru o ran cyfarfod y tu mewn ar gyfer gweithgareddau wedi’u trefnu.

Os ydych chi am ail-ddechrau unrhyw ddawnsio dan dô ar hyn o bryd mae’n rhaid i chi baratoi eich asesiad risg lleol a’ch polisi COVID-19. Mae cyfyngiad o 15 o bobl y tu mewn ar gyfer unrhyw weithgaredd wedi’i drefnu. Rhaid paratoi fersiynau diwygiedig o’r holl ddawnsiau sy’n sicrhau pellter cymdeithasol o 2 fetr drwyddi draw. Efallai yr hoffech chi ddisgrifio’r ymarferion hyn fel sesiynau ffitrwydd er mwyn cydymffurfio â rheolau lleol.

Os, fel yr ydym i gyd yn gobeithio, y bydd rhywfaint o lacio rheolau pellter cymdeithasol yn y Gwanwyn yn dilyn y rhaglen frechu sydd ar y trothwy, byddwn yn anfon canllawiau diwygiedig allan bryd hynny.

Asesiad risg dawnsio tu mewn 2.0