Gweler isod ddiweddariad oddi wrth yr Eisteddfod Genedlaethol o ran dyddiad cau cystadlaethau torfol:

“Gyda chyfyngiadau COVID yn llacio ychydig yng Nghymru, a rhagor o bobl yn cael dod at ei gilydd, ry’n ni wedi penderfynu ymestyn y dyddiad cau ar gyfer cystadlaethau torfol eleni.
Mae nifer ohonoch chi wedi cysylltu i ddweud ei bod hi wedi bod yn anodd i chi gyfarfod, ymarfer a pharatoi fideo – ac ry’n ni wedi gwrando.  Felly, ry’n ni wedi symud y dyddiad cau i ddydd Mercher 16 Mehefin er mwyn i chi gael digon o amser i baratoi ar gyfer Eisteddfod AmGen.
Mae’r holl fanylion eraill yn aros yr un fath – yr angen i baratoi fideo, ei uwchlwytho i YouTube a chynnwys y ddolen, a’r angen i gynnwys eich copïau (os yn berthnasol), ond mae pythefnos ychwanegol i chi baratoi a rhoi polish ar eich perfformiad!
Manylion ein cystadlaethau yma.  Ewch ati i gystadlu – a phob lwc!”

https://mailchi.mp/eisteddfod/dyddiad_cau_newydd