Annwyl gyd-ddawnswyr,

Mae Menter Iaith Maldwyn, Yr Eisteddfod Genedlaethol a phartneriaid eraill yn cyflwyno cais i’r Cyngor Celfyddydau am brosiect i hyrwyddo Dawns Draddodiadol yng Nghymru. Rydan ni angen eich cymorth chi. Isod mae dau holiadur – un ar gyfer grwpiau dawns ac un ar gyfer unigolion sy’n dawnsio. Mae angen i ni gasglu tystiolaeth o beth yw’r sefyllfa dawns bresennol a chasglu syniadau am y ffordd ymlaen. Bydd y wybodaeth y gallwch ddarparu yn gymorth mawr i ni lunio a datblygu’r cais.

Petai un aelod o bob tîm neu grŵp dawnsio yn gallu llenwi’r holiadur ar gyfer y grwpiau dawns mi fyddai hynny yn wych. Hefyd os oes gennych aelodau unigol yn rhan o’ch grŵp sydd am lenwi’r holiadur ac sydd â syniadau pellach (neu yn gwybod am ddawnswyr unigol sydd ddim yn perthyn i unrhyw dîm penodol) plîs rannwch ac anogwch hwy i lenwi’r ail holiadur. 

DIOLCH

Ffurflen i Grwpiau Dawns – Form for Dance Groups

https://forms.gle/Azh7pwTZVWQUYUUv7

Ffurflen Unigolion – Form for Individuals

https://forms.gle/htSTN2sXXF1YZdFD9

DYDDIAD CAU LLENWI’R HOLIADUR / CLOSING DATE OF QUESTIONNAIRE: Dydd Gwener / Friday 28/02/21.