Mae 2023 wedi dod â newyddion trist i Gymdeithas Ddawns Werin Cymru. Mae un o’n haelodau oes hynaf a mwyaf ffyddlon, sy’n adnabyddus i’r mwyafrif ohonom fel “Betty” wedi marw.

Geoff Jenkins, Betty Davies a John Idris

Yn y llun fe’i gwelir yn beirniadu cystadlaethau dawnsio Eisteddfod Aberystwyth gyda John Idris Jones a’r diweddar Geoff Jenkins, (cymerwyd y wybodaeth hon o gefn y llun). Roedd ei gwybodaeth o hanes Cymdeithas Ddawns Werin Cymru a’i dawnsiau yn ddwfn. Roedd ganddi gof bendigedig a synnwyr digrifwch aruthrol. Yn ffrind personol i Pat Shaw a Marion Owen, cyfansoddodd y ddawns “Rhiwfelen” (cerddoriaeth gan Buddug Evans), er cof am Bryn Owen, Rhiwfelen, yr hon a gyflwynodd ac a ddysgodd mewn cwrs CDdWC a gynhaliwyd yn Baskerville Hall, ger Y Gelli. Mae ei theulu wedi gofyn i’r neges ganlynol gael ei hanfon ymlaen at bawb sydd wedi adnabod a mwynhau cwmni Betty dros y blynyddoedd.

Elizabeth Ellen Davies  (Betty)

Yn anffodus, bu farw Betty yn gynnar ar Wyl San Steffan 2022, yn 93 oed. Ym mis Medi fe’i derbyniwyd i Ysbyty Maelor (Wrecsam) ac wrth i’w hiechyd wella, roedd yn mwynhau ei chylchgronau a’i phosau croesair.

Roedd ei theulu agos yn ymweld yn rheolaidd iawn ac roeddent gyda hi ar Noswyl Nadolig; roedd yn eistedd yn ei chadair yn darllen y dosbarthiad diweddaraf o’i chardiau Nadolig. Bu hi farw yn dawel iawn.

Cynhelir y gwasanaeth angladdol a’r gladdedigaeth ar Ionawr 26ain:

1pm Eglwys Sant Martin, Llai, Wrecsam. LL12 0SB

2pm Amlosgfa Pentre Bychan, Rhostyllen, Wrecsam. LL14 4EP

Tricia

(Patricia Collins, nith)

Yr esgidiau dawnsio, roedd hi’n dal i feddwl y byd ohonynt.