Rho dy law i mi ac fe ddawnsiwn gyda’n gilydd trwy Gymru, a dysgu hanesion difyr a gwahanol
am y Ddawns Werin Gymreig.

Trysorfa o bytiau difyr am y ddawns ac ambell chwedl werin yw Llwybrau’r Ddawns, o
ddiddordeb i unrhyw un sydd am wybod am ein traddodiadau gwerin. Cyfrol gynhwysfawr ar
ffurf ugain o deithiau o amgylch Cymru, yn archwilio hanes a thraddodiadau'r ddawns werin, yn
seiliedig ar waith ymchwil y diweddar Alice E. Williams ac Eiry Palfrey. Mae’r llwybrau yn
cyrraedd pob cwr o’r wlad, ac fe nodir manylion ar gyfer y llywiwr lloeren.

Mae Llwybrau’r Ddawns ar gael ym mhob siop lyfrau Cymraeg, neu drwy bartner gwerthu cyhoeddiadau Cymdeithas Ddawns Werin Cymru:

PALAS PRINT
10 Stryd y Plas, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1RR
01286 674 631
siop@palasprint.com