Uncategorized

110 of 13 items

Paneli Canolog yr Eisteddfod

by Dawnsio

Awydd helpu’r Eisteddfod i siapio eu rhaglen gystadlaethau ar gyfer y dyfodol? Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn chwilio am aelodau i rai o’i phanelau canolog. Ewch i eisteddfod.cymru/panelau-canolog am fwy o fanylion.

75 mlwyddiant y Gymdeithas

by Dawnsio

Eleni, mae Cymdeithas Ddawns Werin Cymru yn dathlu ei 75 mlwyddiant! I ddathlu byddwn yn cynnal noson o wledda a dawnsio yn Llandrindod – dilynwch y ddolen am fwy o wybodaeth am y dathliad.

Newydd yn 2024 – Grant Gwisgoedd

by Dawnsio

Yn dilyn derbyn nifer o geisiadau am grantiau tuag at wisgoedd dros y blynyddoedd, ail-ystyriwyd y mater gan y Pwyllgor Gwaith cyn y Nadolig, a daethant i’r penderfyniad y byddai’r Gymdeithas yn ystyried dyfarnu Grant Gwisgoedd i dimau sy’n aelodau o’r Gymdeithas. Dilynwch y ddolen am fwy o wybodaeth ac amodau’r grant: dawnsio.cymru/grant-gwisgoedd

Llwybrau’r Ddawns

by Dawnsio

Rho dy law i mi ac fe ddawnsiwn gyda’n gilydd trwy Gymru, a dysgu hanesion difyr a gwahanol am y Ddawns Werin Gymreig. Trysorfa o bytiau difyr am y ddawns ac ambell chwedl werin yw Llwybrau’r Ddawns, o ddiddordeb i unrhyw un sydd am wybod am ein traddodiadau gwerin. Cyfrol gynhwysfawr ar ffurf ugain o

Darllenwch Mwy…

Eisteddfod Genedlaethol 2023

by Dawnsio

Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd, 5-12 Awst 2023 Edrychwn ymlaen at wythnos brysur dros ben o berfformiadau a chystadlaethau Dawnsio Gwerin yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae’r amserlenni bellach wedi eu cyhoeddi – cliciwch yma am restr lawn o holl ddigwyddiadau Dawnsio Gwerin yr Eisteddfod mewn un man cyfleus. Ymlaen â’r ddawns!

Gŵyl Tredegar House Folk Festival

by Dawnsio

Mae Gŵyl Tŷ Tredegar bron â chyrraedd! Bydd penwythnos Mai 6-8ed yn llawn dop o fwrlwm gwerinol ac mae amrywiaeth eang o grwpiau dawnsio gwerin yn rhan o’r arlwy. Ymysg grwpiau rhyngwladol o Latvia a Bwlgaria bydd amrywiaeth o arddulliau dawns eraill i’w gweld hefyd, gan gynnwys timoedd dawnsio gwerin Cymreig Cwmni Gwerin Pont-y-pwl, Dawnswyr

Darllenwch Mwy…

Eisteddfod “AmGen” National Eisteddfod

by Dawnsio

Efallai nad oes modd i ni ymweld â maes unrhyw eisteddfod yr haf hwn eto, ond mae arlwy ar-lein Eisteddfod AmGen yma i’n diddanu. Gellir gweld yr amserlen lawn isod a dyma fanylion y gweithgareddau a’r cystadlaethau sy’n ymwneud â dawnsio traddodiadol. Mwynhewch! 1-8-2021 @12:20 Tudur Phillips yn perfformio gyda Gwilym Bowen Rhys ac Irfan Rais

Darllenwch Mwy…

Dawns y Cyfnod Clo – Lockdown Dance

by Dawnsio

Yn Rhagfyr 2020, cyhoeddwyd Alison Allen fel enillydd y gystadleuaeth cyfansoddi dawns. Gyda thimoedd dawns yn dechrau cyfarfod unwaith eto, rydym yn medru rhannu copi electronig o’r ddawns gyda chi. Enw’r ddawns erbyn hyn yw ‘Dawns y Swigen – The Bubble’ ac mae’n galluogi chwe dawnsiwr o bedair aelwyd i gyd-ddawnsio a chadw at reolau

Darllenwch Mwy…

Diweddariad – Eisteddfod AmGen

by Dawnsio

Gweler isod ddiweddariad oddi wrth yr Eisteddfod Genedlaethol o ran dyddiad cau cystadlaethau torfol: “Gyda chyfyngiadau COVID yn llacio ychydig yng Nghymru, a rhagor o bobl yn cael dod at ei gilydd, ry’n ni wedi penderfynu ymestyn y dyddiad cau ar gyfer cystadlaethau torfol eleni. Mae nifer ohonoch chi wedi cysylltu i ddweud ei bod

Darllenwch Mwy…