Disgrifiwyd Dawnsiau Llangadfan mewn llythyr gan William Jones, Llangadfan i Edward Jones, Bardd y Brenin, Llundain ar ddiwedd y 18fed ganrif. Mae’r llythyr bellach wedi’i storio yng nghasgliad llawysgrifau’r Llyfrgell Genedlaethol. Disgrifir tri dawns yn fanwl: Roaring Hornpipe, Aly Grogan a Lumps of Pudding. Mae’r dawnsiau, sydd ar gyfer set o dri chwpl, i gyd yn dilyn patrwm tebyg sy’n cynnwys tair adran, yr arwain, yr ochri a’r tro llaw. O fewn yr adrannau hyn mae cwpl gweithiol yn rhyngweithio â phob un o’r pedwar aelod arall o’r set. O’r tair dawns a ddisgrifir yn fanwl, Aly Grogan yw’r un byrraf, mwyaf sylfaenol. Mae’r ddwy ddawns arall yn cynnwys symudiadau ac amrywiadau ychwanegol i gyd-fynd â’u halawon hirach a mwy cymhleth.
Mae’r cyfarwyddyd canlynol ar gyfer Aly Grogan (gweler PDF i’w lawrlwytho isod) yn ganlyniad i waith helaeth gan aelodau Parti Dawns Aelwyd Aberystwyth, yn benodol Ian Hughes, Robin Huw Bowen a Janet Hardy yn y 1980au a’r 90au. Eu nod oedd gweithio o’r llawysgrif wreiddiol i greu cyfarwyddiadau ar gyfer y dawnsiau a fyddai mor ddilys â phosib (heb y fantais o deithio drwy amser). Perfformiodd y grŵp Aly Grogan yn ôl y cyfarwyddiadau hyn fel eu cyfraniad at y DVD “12 Dawns Werin Traddodiadol”, © Cymdeithas Ddawns Werin Cymru 1995. Yn ystod y blynyddoedd canlynol, casglodd Dafydd Thomas y cyfarwyddiadau ar gyfer pob un o’r dawnsiau a rhai awgrymiadau eraill ar gyfer alawon eraill y soniodd William Jones amdanynt. Y cyfarwyddiadau hyn yw’r sail i’r rhai a roddir isod.
Mae tystiolaeth yn llythyr William Jones yn awgrymu bod traddodiad o herio grwpiau o ddawnswyr lleol i amrywio patrymau sylfaenol y dawnsiau i gyd-fynd â gwahanol alawon. Yr awgrym yw bod pob un o’r dawnsiau hyn wedi eu creu i gydweddu ag alaw benodol; daeth yr alaw yn gyntaf gyda’r patrymau dawns wedi’u haddasu i ffitio. O ganlyniad mae’n ymddangos yn rhesymol i fynnu bod y dawnsiau hyn yn cael eu dawnsio i’r alawon a roddir. Fodd bynnag, os oes amrywiadau o’r alaw ar gael, e.e. yn y modd leiaf neu gyda mân newidiadau mewn nodiant, yna gallent gael eu defnyddio fel ail alaw er mwyn lleihau’r blinder i’r cerddorion! Rhoddir dwy enghraifft o’r alaw gysylltiedig “Larry Grogan” yma at y diben hwn. Mae Sbonc Bogel yn awgrym ar gyfer y Rownd O gan nad oes dim yn cael ei roi yn y llawysgrif.