Mae hon yn ddogfen hanesyddol werthfawr, sef atgofion Mrs. Margretta Thomas o ddawnsfeydd Nantgarw. Onibai am ei chof anhygoel hi a dyfalbarhad ac amynedd ei merch Dr. Ceinwen Thomas, byddai’r dawnsiau lliwgar hyfryd hyn wedi mynd i ebargofiant am byth. Copiwyd y geiriau Cymraeg yn gwmws fel yr oeddent yn y cyhoeddiad gwreiddiol.