Darlun o wisg Gymreig gan Arglwyddes Llanofer o’i llyfr darluniau ‘Dull wisgoedd Cymru: Cyflwynedig i bendefigion a boneddigion y dywysogaeth‘.

Bu hanes dawnsiau gwerin Cymru yn un eithaf trist. Gyda dyfodiad y sectau Anghydffurfiol yn y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, fe edrychodd y capeli ar y celfyddydau a diwylliant gwerinol Cymreig fel pethau pechadurus iawn. Fe wnaeth y capeli, y capelwyr, y diaconiaid a pregethwyr mawr y dydd fel Thomas Charles o’r Bala, eu gorau glas i gael gwared o bob math o ddifyrrwch gwerinol “pechadurus” fel dawnsio, canu gwerin, gwyliau Mabsant a cherddoriaeth werin yn gyffredinol, ac eithrio, wrth gwrs, canu emynau a cherddoriaeth y capel. Gorfodwyd pobl i gydymffurfio (!) yn y gymdeithas Gymreig a Chymraeg ond roedd rhai yn ymladd yn erbyn y drefn ac yn dal i ddawnsio (ond ar ôl tynnu llenni’r tŷ!).

Roedd rhai eraill fel William Jones (Llangadfan) ac Edward Jones (Bardd y Brenin), yn gweld y difrod mawr oedd yn digwydd i’r diwylliant ac fe wnaethant hwy a chasglwyr eraill fel Bennett, Walsh a Thompson, lwyddo i nodi’r dawnsiau ar bapur. Gwnaeth Augusta Hall, Arglwyddes Llanofer hefyd chwarae ran flaenllaw fel noddwraig i’r celfyddydau gwerinol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cyn hynny, o’r ail ganrif ar bymtheg ymlaen casglodd a chyhoeddodd Playford nifer o ddawnsiau Cymreig fel Meillionen ac Abergenni. Fel llawer o gerddoriaeth yr adeg yma, bu llawer iawn o newid a benthyg rhwng Lloegr, Cymru, Yr Alban, yr Iwerddon ac Ewrop, ac fe aeth nifer o’n dawnsiau Cymreig i mewn i gasgliadau Prydain Fawr. Cadwyd y teitlau gwreiddiol Cymraeg wrth gyfieithu i’r Saesneg, felly fe aeth y ddawns “Hoffedd ap Hywel” yn “Powell’s Fancy” er enghraifft. Dros amser, diflannodd yr hen ddiwylliant gwerinol cyfoethog, byrlymus, a dim ond ambell glocsiwr neu ddawnswraig yn dal i stepio a phasio’r traddodiad ymlaen, a’r telynwyr teires yn dal i ganu yn y plastai mawr yn cadw’r alawon traddodiadol, llawer iawn ohonynt yn alawon dawnsiau. Felly, ar ddechrau’r ugeinfed ganrif, bach iawn oedd cyfraniad dawnsio gwerin i’r diwylliant Cymreig.

Esiamplau o’r alawon a gyhoeddwyd gan Edward Jones (Bardd y Brenin) yn ei gasgliad ym 1794 ‘Musical and Poetical Relicks of the Welsh Bards …‘.

Yn y 1920au, gwnaeth Hugh Mellor, Urdd Gobaith Cymru ac eraill ddechrau ymddiddori yn yr hen ddawnsiau. Yn y pedwardegau, daeth Lois Blake a Gwyn Williams yn flaenllaw yn atgyfodi dawnsio gwerin Cymreig ac yn 1949 ffurfwyd Cymdeithas Ddawns Werin Cymru gyda’r nod o hybu ac ail-greu yr hen ddawnsiau. Casglwyd llawer iawn o ddawnsiau oedd gydag enwau Cymraeg neu o naws Gymreig o’r casgliadau, gydag ambell fewnfudiad oedd, efallai, heb ddim byd i’w wneud a Chymru! Trwy ailwampio ac ail-greu y dawnsiau, a gyda llawer o ymchwil a hir ymarfer fe ddatblygodd dawnsio gwerin Cymru i chwarae rhan fywiog, gweladwy, lliwgar a byw o ddiwylliant Cymru.

Heddiw, mae’r traddodiad dawnsio yn parhau yn gryf. O fewn Cymru mae dros ugain o grwpiau dawnsio i oedolion a channoedd ar gannoedd o dimau yn yr ysgolion ac yn Adrannau ac Aelwydydd yr Urdd drwy Gymru. Mae Eisteddfod yr Urdd yn hybu’r dawnsio ac yn denu miloedd o bobl ifanc i gystadlu pob blwyddyn. Yn ogystal, mae gwyliau plant megis Gwyl Plant Gwent yn llwyddiant ar draws De Cymru. Ceir nifer helaeth o wyliau eraill, ac fe’u cynhelir yn aml o gwmpas dyddiadau traddodiadol pwysig, megis Calan Mai, Gwyl Ifan a’r Hen Galan. Ceir rhestr o ddigwyddiadau sydd ar y gweill ar ein tudalen ‘Digwyddiadau‘, felly beth amdani? Dewch i ymuno yn y ddawns!