Mae Cymdeithas Ddawns Werin Cymru (CDdWC) yn awyddus i gefnogi pob grŵp dawnsio gwerin
traddodiadol a helpu i sicrhau bod ein traddodiadau’n parhau i ffynnu. Un ffordd o wneud
hynny yw trwy gynnig grant cefnogi a datblygu. Ceir manylion pellach ac arweiniad isod. Os
yw’r wybodaeth yn berthnasol i’ch tîm lawrlwythwch a llenwch y ffurflen gais ac anfon drwy
e-bost at ysgrifennydd@dawnsio.cymru .
Canllawiau ar gyfer ceisio am grant CDdWC
Cynigir y grant i bartïon o ddawnswyr cymysg, h.y. bechgyn a merched, sydd yn
hyrwyddo dawnsio gwerin a chlocsio.
- Yn ddelfrydol cynigir y grant i grŵp o bobl ifanc, ond fe fydd aelodau o bwyllgor gwaith
y Gymdeithas a fydd yn ystyried pob cais, yn hyblyg wrth weithredu; - Caiff yr ymgeiswyr llwyddiannus help a chyngor i sefydlu parti dawns a swm dechreuol
fel grant; - Darperir uchafswm o £500 am bob cais, ond gellid gwneud cais ychwanegol yn yr ail
flwyddyn, os bydd mwy o angen gan fenter sydd yn ffynnu; - Gwneir taliadau o flaen llaw am rywbeth pendant e.e. llogi neuadd, costau cyffredinol
ayb - Gellir ystyried grant i helpu gyda gwisgoedd – ond nid i dalu am set llawn o wisgoedd
na chlocsiau. Yn y cyswllt hwn, gellid edrych ar system o ariannu cyfatebol
(matchfunding) - Cynigir mentor lleol i gefnogi a chynnig arweiniad i arweinydd / arweinwyr y grŵp
- Dylai’r grwpiau fod yn aelodau o Gymdeithas Ddawns Werin Cymru;
- Bydd angen tystiolaeth o ymroddiad i gychwyn parti a chynllun i gwrdd i ymarfer yn
rheolaidd.
Am sgwrs anffurfiol a mwy o fanylion, cysyllter â Chadeirydd Cymdeithas Ddawns Werin
Cymru : Dr. John Idris Jones ar 07495806077 .