Diddorol yw sylwi mai amrywiad o’r alaw ddawnsio – ‘Jones’ Hornpipe’, allan o ‘A New Set of Favourite Country Dances, Cotillons, and Allemands’ Edward Jones, Bardd y Brenin, gyhoeddwyd rhwng 1780 a 1790, ddefnyddiai Thomas Gruffydd, Telynor Llanofer, pan gyflwynid y ddawns yma yn Llys Lianofer. Arferid dawnsio’r ddawns gan weision a morynion y plas i ddiddori’r teulu ac ymwelwyr.
Merch y telynor, sef Mrs Gruffydd Richards (Pencerddes y De) a’r Prifathro T.A.Williams lwyddodd i alw’n ol y ddawns yn 1918 er mwyn adfywio dawnsio ohoni yn yr ardal. ‘Roedd Mrs Richards yn cofio dawnsio’r ddawns yn y plas, pan yn blentyn. Cyhoeddwyd cerddoriaeth a chyfarwyddiadau’r ddawns gan Urdd Gobaith Cymru yn Gymraeg ym 1934 (Pris-Dwy geiniog !) Yna cyhoeddwyd wedyn gan Gwmni Gwynn, Llangollen yn Saesneg – “20 Welsh Melodies” ae yn ddiweddarach gan yr un cwmni fel cyhoeddiad sengl (G.P.C. 3401 a 8205)
Dawns i dri (Dwy ferch ac un dyn) yw ” Llanofer – ffurf pur anghyffredin yn null dawnsio cyfnod Y Frenhines Elizabeth.
Mae iddi bedwar ar ddeg o ffigyrau ac i bob un ohonynt eu henwau traddodiadol. e.e ‘Tua’r Delyn’. Cyfeiriad geir yma, mae’n debyg, at y ffaith mai mewn mintai luosog o drioedd y dawnsid y ddawns mewn neuadd hir ond cymharol gul. Dawnsid tuag at ben y neuadd lle’r eisteddai’r Pen Teulu a’i wahoddedigion arbennig. Yn union uwch ben, yr oedd, ‘Oriel y Cerddorion’- telynorion yn yr achos yma. Dyna paham, yn y fersiwn Gymraeg, y dewiswyd ‘Tua’r Delyn’ fel enw i’r ffigwr yn hytrach na’r Saesneg arferol am symudiado’r fath – ‘Honour to the Presence’. Mewn eisteddfodau, cyngherddau a phobdawnsio llwyfan heddiw y gynulleidfa yw’r ‘Presenoldeb’ a dewis doeth llawer o ddawnswyr yw cydnabod hynny gan ddawnsio tua’r gynulleidfa ar ddechrau a diwedd eu cyfiwyniad o ddawnsio – fel arwydd o barch, cydnabod a chais am gefnogaeth ac ysbrydoliaeth.
O.N. Efallai mai dyma’r lle y dylid cyfeirio at y term ‘hornpipe’. Tyfodd y syniad mai cysylltiad Ynysoedd Prydain a’r mor roddodd sail i’r dybiaeth mai dawns i forwr neu forwyr ddylai ‘hornpipe’ fod. ‘Roedd yr awdurdod cerddorol, Mrs. Lilly Grove yn llwyr gredu hynny, ac ymhellach, awgrymai y dylid dawnsio ‘hornpipe’ mewn dillad morwr! Fodd bynnag, rhaid cyfeirio at y ffaith ddiddorol mai offeryn cerdd Cymreig – Y Pibgorn (Hornpipe neu Pibau Bugeiliaid) roddodd yr enw i’r ddawns.
‘Roedd yr offeryn yma yn gyffredin yng Nghernyw, Yr lwerddon a Llydaw hefyd, ac yn sicr cymeriad bugeiliol sydd i’r Ddawns Gymreig, yn hytrach na morwrol. Bellach, mae peth sicrwydd mai yng Nghymru neu yng Nghernyw y bu cychwyn y ddawns yma. Yn ddiweddarach, yng nghyfnod Chaucer 1340-1400 y daeth y ddawns yma yn boblogaidd yn Lloegr.