Gŵyl Cerdd Dant 2025: Gwybodaeth Bwysig

by Dawnsio

Neges gan Alaw Griffiths ar ran Pwyllgor Gwaith Gŵyl Cerdd Dant Aberystwyth a’r Fro 2025 Annwyl gyfeillion, Hoffwn egluro trefniant pwysig ar gyfer cystadleuaeth Parti Dawns Oedran Cynradd, sef Hwyl-ddawns y Cardi (Dawnsiwn Ymlaen, Eddie Jones), yn yr Ŵyl Cerdd Dant eleni. Fel y gwyddoch dwi’n siwr, mae’r ddawns yn un hir ar gyfer plant

Darllenwch Mwy…

Strategaeth 5 mlynedd CDdWC

by Dawnsio

Parhau mae’r Ddawns Mae Cymdeithas Dawns Werin Cymru yn falch o gyhoeddi ei Strategaeth Pum Mlynedd newydd, gan osod gweledigaeth glir ar gyfer datblygu a chryfhau dawnsio traddodiadol ar draws Cymru. Yn dilyn adroddiadau diweddar gan Gyngor Celfyddydau Cymru a llwyddiant prosiectau fel WYTH a TwmpDaith, mae’r strategaeth yn cynnig camau uchelgeisiol i sicrhau dyfodol

Darllenwch Mwy…

Paneli Canolog yr Eisteddfod

by Dawnsio

Awydd helpu’r Eisteddfod i siapio eu rhaglen gystadlaethau ar gyfer y dyfodol? Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn chwilio am aelodau i rai o’i phanelau canolog. Ewch i eisteddfod.cymru/panelau-canolog am fwy o fanylion.

75 mlwyddiant y Gymdeithas

by Dawnsio

Eleni, mae Cymdeithas Ddawns Werin Cymru yn dathlu ei 75 mlwyddiant! I ddathlu byddwn yn cynnal noson o wledda a dawnsio yn Llandrindod – dilynwch y ddolen am fwy o wybodaeth am y dathliad.

Newydd yn 2024 – Grant Gwisgoedd

by Dawnsio

Yn dilyn derbyn nifer o geisiadau am grantiau tuag at wisgoedd dros y blynyddoedd, ail-ystyriwyd y mater gan y Pwyllgor Gwaith cyn y Nadolig, a daethant i’r penderfyniad y byddai’r Gymdeithas yn ystyried dyfarnu Grant Gwisgoedd i dimau sy’n aelodau o’r Gymdeithas. Dilynwch y ddolen am fwy o wybodaeth ac amodau’r grant: dawnsio.cymru/grant-gwisgoedd

Llwybrau’r Ddawns

by Dawnsio

Rho dy law i mi ac fe ddawnsiwn gyda’n gilydd trwy Gymru, a dysgu hanesion difyr a gwahanol am y Ddawns Werin Gymreig. Trysorfa o bytiau difyr am y ddawns ac ambell chwedl werin yw Llwybrau’r Ddawns, o ddiddordeb i unrhyw un sydd am wybod am ein traddodiadau gwerin. Cyfrol gynhwysfawr ar ffurf ugain o

Darllenwch Mwy…

Eisteddfod Genedlaethol 2023

by Dawnsio

Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd, 5-12 Awst 2023 Edrychwn ymlaen at wythnos brysur dros ben o berfformiadau a chystadlaethau Dawnsio Gwerin yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae’r amserlenni bellach wedi eu cyhoeddi – cliciwch yma am restr lawn o holl ddigwyddiadau Dawnsio Gwerin yr Eisteddfod mewn un man cyfleus. Ymlaen â’r ddawns!

Gŵyl Ifan

by Dawnsio

Mae Gŵyl Ifan yn dychwelyd i Gaerdydd a’r ardal eleni – am fanylion pellach, darllenwch ymlaen… Bydd noson i groesawu ar nos Wener, 23ain Mehefin, yn y Stiwt yn Llandaf o 7.30yh tan yr hwyr. Bydd bwffe bys a bawd ar gael. Dydd Sadwrn, byddwn yn dechrau, fel llynedd, wrth godi’r Pawl yn Sain Ffagan

Darllenwch Mwy…

Dathlu bywyd Betty Davies

by Dawnsio

Mae 2023 wedi dod â newyddion trist i Gymdeithas Ddawns Werin Cymru. Mae un o’n haelodau oes hynaf a mwyaf ffyddlon, sy’n adnabyddus i’r mwyafrif ohonom fel “Betty” wedi marw. Yn y llun fe’i gwelir yn beirniadu cystadlaethau dawnsio Eisteddfod Aberystwyth gyda John Idris Jones a’r diweddar Geoff Jenkins, (cymerwyd y wybodaeth hon o gefn

Darllenwch Mwy…