Hwp Ha Wen, Cadi Ha, Morys Stowt, Am yr uchla neidio, Hwp dene fo,
Fy ladal i, a’i ladal o, a ladal ges i fenthyg,
Cynffon buwch a chynffon llo a chynffon Rhisiart Parri go, Hwp dene fo.
Llinell neu ddwy o gân draddodiadol o Sir y Fflint a genir gan y dawnswyr wrth i’r gwÿr orymdeithio drwy strydoedd tref marchnad Treffynnon ar y Sadwrn cyntaf o Fis Mai.
Mae’n draddodiad byw sy wedi parhau yn ddi-dor ac esblygu efo pob cenhedlaeth newydd. Yn ôl y sôn arferai’r tîm gwreiddiol o Fagillt gychwyn o’r pentre yn gynnar yn y bore gan ddawnsio ar hyd y ffordd i ddawnsio yn Nhreffynnon am dri o’r gloch y prynhawn.
Mae dros ddwy ganrif o gofnodion o ddynion o gymunedau glofäol gorllewin Sir y Fflint [yn arbennig felly o’r Fflint, Bagillt, Treffynnon, Mostyn a Llanasa] yn gorymdeithio a dawnsio ar ddydd cyntaf Mai. Weithiau buasai’r gweithgareddau yn parhau am hyd at bythefnos wrth i’r dynion [gyda chymorth y rheilffordd] fynd a’u dawns i gymunedau eraill, gan deithio cyn belled a Bangor i gasglu ychydig o geiniogau.
Roedd y ddawns yn cynnwys parau o ddynion mewn dwy linell, gyda’u hwynebau wedi eu duo gan lwch y glo, neu gorcyn wedi ei losgi. Gorymdeithient mewn dillad gwynion, gyda’r naill linell yn cario rhubannau cochion a’r llall â rhubannau gleision, gan aros yma ac acw i ganu.
Gyda’r dawnswyr yr oedd dau gymeriad; Bili, mewn gwisg ddu a Cadi mewn dillad merch. Buasai’r ddau gymeriad yn rhyngweithio a chasglu arian mewn lletwad gan ymateb i eiriau’r caneuon.,
Roedd eu dawns yn gystadleuol o ran natur gan gyfeirio at “neidio am yr ucha”, “neidio dros dy ben di” neu “neidio dros y gamfa”[sticill]. Roedd llinellau eraill yn cyfeirio at y “ladal” neu’r lletwad ac at gasglu arian.
Roedd yr union eiriau yn amrywio o ardal i ardal ac yn esblygu dros y blynyddoedd. Er bod y traddodiad hwn ynghlwm â’r iaith Gymraeg ac yn gysylltiedig a chymunedau lle ceid, ychydig dros ganrif yn ôl, gyfran helaeth o siaradwyr Cymraeg uniaith – mae cofnod o ddefnyddio rai geiriau Saesneg.
Mae llinellau fel “On the first day of May we’ll have a holiday” ac “I wish i e, I wish i o, I wish I had a penny o” yn cyfleu ychydig o’r traddodiad i’r sawl nad ydyn nhw’n siarad Cymraeg.
Yn y ddeunawfed ganrif fe nododd Lady Herbert Lewis o Gaerwys y gân a’r ddawns ar ôl sgwrsio gyda meistr Tloty Treffynnon [ysbyty Lluesty yn ddiweddarach] ac mae’r fersiwn hwnnw yn parhau i gael ei ddefnyddio.
Er i’r arfer golli ei fri ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, mae llawer o drigolion y cylch yn cofio gweld perfformio’r Cadi Ha, neu, hyd yn oed yn meddu ar atgof plant neu bobl ifanc o wisgo a pherfformio rhyw ddawns neu gilydd un unol â’r traddodiad.
Trefnodd Lois Blake, un o’r sefydlwyr Cymdeithas Ddawns Werin Cymru ,perfformiad o’r Cadi Ha ym 1936 yn Yr Wyddgrug i ddathlu canmlwyddiant genedigaeth Daniel Owen.
Diolch i Ieuan ap Siôn, canwr lleol, bu adfywiad yn yr 1970 a’r 80au. Gan seilio’r ddawns ar atgofion ei dad a’i daid casglodd criw ynghyd i deithio bob dechrau fis Mai. Arferent ddawnsio “rhywsut, rhywsut” yn hytrach na chadw at sgript ac fe gafwyd sawl ymddangosiad ar y teledu. Bymtheng mlynedd yn ddiweddarach, o ganlyniad i sgwrs rhwng y diweddar Chris Bailey a rheolwr Canolfan Treffynnon, lansiwyd yr Wyl Cadi Ha presennol. Gweithiodd Chris Bailey efo’r diweddar Geoff Jenkins, arweinydd Dawnswyr Delyn yn Yr Wyddgrug i sefydlu gŵyl flynyddol. Dathlwyd yr ail ŵyl ar hugain yn 2019 ond oherwydd Covid19 ni lwyddwyd cynnal yr ŵyl yn 2020 na 2021.
Dechreuwyd gyda phump ysgol leol, dawnswyr stepio lleol ac aelodau o griw dawnsio gwerin o’r Wyddgrug, sef Dawnswyr Delyn. Bu’n llwyddiant mawr, ac o adeiladu ar y profiadau, tyfodd yn ŵyl boblogaidd. Ymunodd rhagor o ysgolion yn ystod y blynyddoedd canlynol efo Ysgol Gwenffrwd o Dreffynnon yn mynychu pob Gŵyl Cadi Ha. Derbyniwyd cefnogaeth gan gyfeillion o ddawnswyr Ynys Môn, Caernarfon, Llangadfan (Powys), Caerdydd, Caerfyrddin, Aberystwyth a Phenybont ar Ogwr ar adegau gwahanol dros y blynyddoedd.
Bu hefyd ymweliadau gan dimoedd o ddawnswyr traddodiadol o Fflandrys yng ngorllewin Gwlad Belg, Llydaw ac Ynys Manaw.
Rhaid peidio ag anghofio’r tîm ffyddlon – yn gerddorion, stiwardiaid, technegwyr sain cefnogwyr, athrawon a rhieni sy wedi bod mor hanfodol i lwyddiant y Cadi Ha.