Dawns uned hir o ardal Llanofer yw Rhif Wyth hefyd. Cyhoeddwyd un fersiwn o’r ddawns gan Hugh Mellor yn ‘Welsh Folk Dances’ ym 1935. Cafodd Hugh Mellor ei nodiadau gan Mrs Gruffydd Richards ym 1926. Cyhoeddwyd ail fersiwn gan ‘Steiner and Bell’ yn ddiweddarach ynseiliedig ar nodiadau a’disgrifiadau Gladys M. Griffin. Yna yn gymharol ddiweddar paratowyd a chyhoeddwyd fersiwn gan Gymdeithas Ddawns Werin Cymru. Gwnaed y gwaith hwn, ar ran y Gymdeithas gan Y Doctor Terry Williams, Abertawe (fu’n Ysgrifennydd ymroddgar i’r Gymdeithas am rai blynyddoedd) ac Eirlys Phillips (hyfforddwraig Dawnswyr Talog). Y mae’r fersiwn yma yr un, yn ei hanfod, a fersiwn Gladys Griffin, ond trefniant o’r un alaw ag a nodwyd gan Mrs Gruffydd Richards yw’r gerddoriaeth.

Mae modd archebu copi o’r llyfryn Dawnsiau Llanofer o siop ar-lein Palas Print.