Cyhoeddwyd y Grant Gwisgoedd yn 2024. Bydd y Gymdeithas yn ystyried dyfarnu Grant Gwisgoedd ar yr amodau isod:

  • Rhaid i’r tim fod yn aelod o Gymdeithas Ddawns Werin Cymru a thros 16 oed
  • Dynodir grant hyd at £1,000 ar gyfer timoedd newydd sydd heb wisgoedd yn barod
  • Dynodir hyd at £500 ar gyfer timoedd sefydlog
  • Nid yw grŵp yn medru ceisio am grant am 3 blynedd arall
  • Rhaid nodi eich costau penodol a rhoi copi o dderbynneb i’r Gymdeithas o fewn chwe mis
  • Ni fedr grŵp ôl ddyddio cais
  • Rhaid rhoi amcangyfrif o flaen llaw yn dynodi ar beth fydd y gwariant

Cysylltwch am fwy o wybodaeth ac i geisio am y grant.