Mae CDdWC yn awyddus i gefnogi unrhyw grŵp dawnsio gwerin traddodiadol neu unigolyn /unigolion sydd yn awyddus i gynnal Gŵyl neu ddigwyddiad arbennig sydd yn codi ymwybydddiaeth ac yn hyrwyddo a dathlu dawnsio gwerin a stepio traddodiadol yng Nghymru.
Gwahoddir ceisiadau am grant o hyd at £500 ar gyfer digwyddiadau bach ac hyd at £1,500 ar gyfer digwyddiadau mwy a Gwyliau a drefnir dros fwy nag un diwrnod.
