“Diwrnod o Ddawns” 18 Gorffennaf, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Dechrau am 10.30 wrth y Brif Fynedfa gyda Gorymdaith yn arwain i fyny y “Broad Walk” i Sgwâr y Mileniwm.
Mae croeso i bawb, pob un o dimau Dawnsio Gwerin Cymru ac aelodau unigol.

Y grwpiau sydd wedi eu gwahodd o’r tu allan i Gymru eleni yw :

  • Skylark & Artforge o Karelia, Rwsia
  • Penzance Guizers o Gernyw

Ar ôl yr orymdaith bydd dawnsio cymdeithasol i bawb i ymuno ynddo tan amser cinio. Ar ôl toriad, bydd y grwpiau yn unigol yn rhannu i ddawnsio mewn gwahanol fannau yn yr Ardd Fotaneg.