Ymunwch â Parti Dawns Aelwyd Aberystwyth i ddathlu eu pen-blwydd yn 70!
Bydd y dathliadau’n cynnwys:
- Twmpath nos Wener
- Dawnsio ar y Prom ddydd Sadwrn
- Dawns Fawreddog a phryd bwyd nos Sadwrn
Cynhelir yr holl ddigwyddiadau yng nghanol Aberystwyth a’r cyffiniau: lawrlwytho rhaglen y penwythnos
Mae ffurflen archebu ar gael ar gyfer y pryd bwyd a’r Ddawns Fawreddog. Os ydych yn bwriadu mynychu, sicrhewch fod eich archeb a’ch taliad yn cyrraedd erbyn 15 Medi.
Llety
Mae digon o lety ar gael yn Aberystwyth. Mae Gwesty’r Marine yn cynnig gostyngiad o 10% am un noson neu 15% am ddwy noson i’r rhai sy’n nodi eu bod yn mynychu’r dathliadau wrth archebu.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu i’r achlysur arbennig hwn!
