Neges gan Alaw Griffiths ar ran Pwyllgor Gwaith Gŵyl Cerdd Dant Aberystwyth a’r Fro 2025
Annwyl gyfeillion,
Hoffwn egluro trefniant pwysig ar gyfer cystadleuaeth Parti Dawns Oedran Cynradd, sef Hwyl-ddawns y Cardi (Dawnsiwn Ymlaen, Eddie Jones), yn yr Ŵyl Cerdd Dant eleni.
Fel y gwyddoch dwi’n siwr, mae’r ddawns yn un hir ar gyfer plant oed cynradd. O’r herwydd, awgrymwn berfformio rhannau 1, 3 a 5, gyda’r gytgan ar ôl rhan 1 a rhan 3.
Er mwyn eglurdeb felly: Nid oes angen perfformio’r ddawns gyfan.
Er tegwch i bawb, petai grŵp yn dewis perfformio’r ddawns gyfan, ni fydd hynny’n rhoi unrhyw bwyntiau ychwanegol, ac ni fydd unrhyw bwyntiau yn cael eu tynnu i ffwrdd.
Bydd y beirniaid yn cael gwybod am y trefniant hwn hefyd, wrth gwrs.
Gofynnwn yn garedig i chi rannu’r neges hon mor eang â phosibl, er mwyn i bob hyfforddwr gael gwybodaeth glir a chywir. Mae’n well fod pobl yn derbyn y neges mwy nag un waith yn hytrach na dim o gwbl – diolch o galon i chi am eich amser a’ch cydweithrediad.
Diolch yn fawr iawn am eich cefnogaeth i’r Ŵyl unwaith eto eleni. Rydym yma yn Aberystwyth yn edrych ymlaen yn arw at eich croesawu chi draw i ganol yr hwyl!
