Mae’r Cyfarwyddiadau, Cefndir a Nodiadau wedi eu codi o’r daflen.
Cyfarwyddiadau
Ffurf: Uned hir ddeubar
Alaw: Jig Owen (Rhif 16, Cadw Twmpath, CDdWC) i’w chwarae’n sionc.
Recordiad: Trac 5: Hwyl y Ddawns Werin, Eddie Jones
A1 1-4
Llanw a thrai:
Ym mhob uned deubar, gafael llaw fewnol y cymydog, cyfarch ymlaen ac yn ôl (gweler y nodyn ar y diwedd)
A1 5-8
Croesi ac o gwmpas:
Cwpl 1 yn croesi pasio ysgwydd dde, mynd i lawr o gwmpas Cwpl 2 gan ddiweddu yn wynebu i fyny rhwng Cwpl 2. Nid yw Cwpl 2 yn symud i safle Cwpl 1.
A2 1-4
Arwain i fyny ac yn ôl:
Cydio dwylo mewn llinell o bedwar, dynion a merched bob yn ail, cerdded ymlaen ac yn ôl.
A2 5-8
Arwain i fyny a ‘llidiart’:
Pawb cerdded ymlaen eto ac yna’r ‘llidiart’ (gweler y nodyn ar y diwedd), gyda Cwpl 1 yn diweddu yn yr ail safle yn afreolaidd a Chwpl 2 yn safle 1 yn rheolaidd.
B1 1-4
Hanner ffigwr 8:
Cwpl 1 yn dawnsio hanner ffigwr wyth gan groesi i fyny rhwng Cwpl 2 a diweddu yn yr ail safle yn rheolaidd.
B1 5-8
Cefn-gefn adlewyrchol ar yr ochrau:
Merch 1 a 2 cefn-gefn dde tra mae Dyn 1 a 2 cefn-gefn chwith.
B2 1-4
Llithro Bocs Matsis:
Cwpl 1 yn gafael dwy law a llithro i safle 1, tra mae Cwpl 2 yn llithro tu ôl iddynt i safle 2 (4 cam llithro);
Cwpl 2 yn gafael dwy law a llithro yn ôl i safle 1 tra mae Cwpl 1 yn llithro tu ôl iddynt yn ôl i safle 2 (4 cam llithro).
B2 5-8
Llithro Bocs Matsis:
Ail adrodd B2 1-4.
Ailadrodd gyda cyplau newydd, unrhyw nifer o weithiau.
[ yn ôl i’r brig ]
Cefndir
Dawns a grëwyd yn arddull dawnsiau gwerin y 18fed ganrif. Cyflwynir y ddawns i Fiwmares (Ynys Môn), gan mai Beaumaris yw’r unig faestref ym Melbourne sydd wedi ei henwi ar ôl tref yng Nghymru. Rhoddodd y faestref yma ei henw i’r bae. Enillodd y ddawns y wobr gyntaf yng Nghystadleuaeth Cyfansoddwyr Dawns (yr Uwch Adran) a gynhaliwyd gan y Traditional and Social Dance Association of Victoria yn Ebrill 2009 yn y National Folk Festival, Canberra.
[ yn ôl i’r brig ]
Nodiadau
Cyfarch
Arddull arferol y 18fed ganrif – cyfarch i’r dde a’r chwith, ond gan symud ymlaen tuag at y cymar. Wrth gyfarch ymlaen a symud yn ôl dylid gafael llaw’r cymydog yn unig i bwysleisio gweithio o fewn uned ddeubar.
Llidiart
Dyn 2, wrth afael llaw Merch 1 (gyda phenelinoedd yn cyffwrdd), yn troi yn ei unfan i’r chwith, tra bod Merch 1 yn cerdded 3/4 cylch o’i gwmpas i safle 2 i wynebu ei chymar. Yr un pryd, Merch 2, wrth afael llaw Dyn 1, yn troi i’r dde yn ei hunfan tra bod Dyn 1 yn cerdded 3/4 cylch o’i chwmpas i safle 2 i wynebu ei gymar (4 cam cerdded – rhai bach ar yr unfan i Gwpl 2; camau brasach i Gwpl 1)
[ yn ôl i’r brig ]
Cerddoriaeth
Jig Owen
[ yn ôl i’r brig ]
Fideo
[ yn ôl i’r brig ]
