gan Eirlys Phillips

© Hawlfraint Cymdeithas Ddawns Werin Cymru, Medi 2025. Cedwir pob hawl. Ni chaniateir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn na’i gadw mewn cyfundrefn adferadwy neu’i drosglwyddo mewn unrhyw ffurf neu unrhyw ddull, electronig nac fel arall, heb ganiatâd ymlaen llaw gan Gymdeithas Ddawns Werin Cymru.


Cyfarwyddiadau

Ffurf: Tair uned y tu ôl i’w gilydd, pob uned yn cynnwys dyn gyda merch bob ochr iddo.
            O     X     O
            O     X     O
            O     X     O
Alaw: Rhos Fach

A1 ac A2 Ymlaen ac yn ôl, cyfarch a throi sengl. Ailwneud.
B1 Y tri dawnsiwr blaen yn dawnsio ffigwr wyth o gwmpas y rhai sydd tu ôl iddynt gan ddechrau drwy droi allan i’r dde.
B2 Y tri dawnsiwr blaen yn parhau gyda’r ffigwr wyth ond y lleill nawr yn ymuno gyda’r ffigwr wyth.
A3 (1 i 4) Ym mhob uned o dri, y dyn yn camu ’nôl dau gam ac ymlaen dau gam tra fod y ddwy ferch yn cerdded ymlaen pedwar cam i ffurfio siâp cylch gyda’r dyn. Pawb yn clapio unwaith, yna clapio ochr i’r cymdogion, clapio unwaith eto, yna ffurfio seren llaw dde.
A3 (5 i 8) Seren llaw dde.
A4 (1 i 4) Cylch i’r dde.
A4 (5 i 8) Y dynion yn cerdded ymlaen pedwar cam ac yn ôl pedwar cam tra fod y merched yn pontio drostynt ac yna yn ôl i’w lle.
B3 a B4 Fel B1 a B2 ond gyda’r tri dawnsiwr canol yn dechrau’r ffigwr wyth gan symud ymlaen i’w chwith.
A5 Y dynion yn troi llaw dde gyda’r ferch ar y dde, yna’n troi llaw chwith gyda’r ferch ar y chwith.
A6 Cefn-gefn pasio ysgwydd dde gyda’r ferch ar y dde, yna cefn-gefn pasio ysgwydd chwith gyda’r ferch ar y chwith.
B5 a B6 Fel B1 a B2 ond gyda’r tri dawnsiwr cefn yn dechrau’r ffigwr wyth gan symud ymlaen i’w de.
A7 ac A8 Ymlaen ac yn ôl, cyfarch a throi sengl. Ymlaen ac yn ôl, cyfarch ac ymgrymu.
Gellir defnyddio cerddoriaeth B i adael y llwyfan.

[ yn ôl i’r brig ]


Cefndir

Enillodd y ddawns hon yn Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni yn 2016.

[ yn ôl i’r brig ]


Cerddoriaeth

Alaw

Trefniant piano

[ yn ôl i’r brig ]


Fideo

Mae’r fideo isod yn ddehongliad o’r ddawns ac fe’i darperir at ddibenion darluniadol yn unig. Nid yw’n fersiwn derfynol nac awdurdodol. Dylai cystadleuwyr gyfeirio at y cyfarwyddiadau ysgrifenedig wrth baratoi eu perfformiad.

[ yn ôl i’r brig ]