Canllawiau Beirniadu Dawnsio Gwerin a Chlocsio
Mae is-bwyllgor o Gymdeithas Genedlaethol Dawns Werin Cymru (CGDWC) wedi paratoi canllawiau beirniadu dawnsio gwerin a chlocsio. Mae aelodau eraill o’r pwyllgor gwaith eisoes wedi rhoi mewnbwn i’r canllawiau. Bwriad y Gymdeithas yn awr yw trafod y canllawiau ymhellach mewn cyfarfodydd o bosib mewn pum ardal yng Nghymru. Yn ogystal â’r Gymdeithas, mae’r Urdd hefyd am weld canllawiau ar gael ar gyfer y lluaws o feirniaid sydd eu hangen yn holl Eisteddfodau’r Urdd. Amgaeir, felly, y drafft diweddaraf o’r canllawiau.