Gŵyl flynyddol ydy Gŵyl Ifan, sy’n lliwio strydoedd y brif ddinas gyda’r llawenydd o draddodiadau Cymreig. Mae Cwmni Dawns Werin Caerdydd yn croesawu dawnswyr gwerin ledled Cymru a thramor i berfformio a dathlu canol yr haf.

Eleni, wrth ddathlu 40 blynedd, dyma’r ŵyl olaf yn ei ffurf bresennol, gyda thwmpath ar y nos Wener, perfformio’n gyhoeddus ar strydoedd Caerdydd ac Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan ar y dydd Sadwrn cyn cynnal Taplas gyda’r nos. Bydd hefyd dawnswyr o’r Iseldiroedd, Llydaw, Ffrainc a Chernyw yn ymuno gyda’r dathliadau.

Hysbyseb - rhaglen

Ewch i’r wefan am ragor o wybodaeth: gwylifan.org