Cymdeithas Ddawns Werin Cymru - yn cynnal, gwarchod a hyrwyddo dawnsio traddodiadol Cymru trwy Gymru a’r byd. Cofiwch alw draw i'n stondinau ar Instagram, X, a Facebook hefyd. Ymlaen â’r ddawns!

Newyddion

Paneli Canolog yr Eisteddfod

Awydd helpu’r Eisteddfod i siapio eu rhaglen gystadlaethau ar gyfer y dyfodol? Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn chwilio am aelodau i rai o’i phanelau canolog. Ewch i eisteddfod.cymru/panelau-canolog am fwy o fanylion.

75 mlwyddiant y Gymdeithas

Eleni, mae Cymdeithas Ddawns Werin Cymru yn dathlu ei 75 mlwyddiant! I ddathlu byddwn yn cynnal noson o wledda a dawnsio yn Llandrindod – dilynwch y ddolen am fwy o wybodaeth am y dathliad.

Newydd yn 2024 – Grant Gwisgoedd

Yn dilyn derbyn nifer o geisiadau am grantiau tuag at wisgoedd dros y blynyddoedd, ail-ystyriwyd y mater gan y Pwyllgor Gwaith cyn y Nadolig, a daethant i’r penderfyniad y byddai’r Gymdeithas yn ystyried dyfarnu Grant Gwisgoedd i dimau sy’n aelodau o’r Gymdeithas. Dilynwch y ddolen am fwy o wybodaeth ac amodau’r grant: dawnsio.cymru/grant-gwisgoedd