Posts by Luke James Evans

6 Items

Llongyfarchiadau Rhodri Jones a Huw Roberts!

by Luke James Evans

Llongyfarchiadau mawr i’r aelodau gafodd eu urddo gyda gwisg werdd yr Orsedd eleni yn Ynys Mon. Rhodri  Jones o Benarth sy’n aelod o’r Pwyllgor Gwaith ac yn gyfrifol am ein llyfrgell;  a Huw Roberts, cerddor ac awdurdod ar y wisg Gymreig. Llongyfarchiadau hefyd i Jeremy Randles, oherwydd marwolaeth sydyn ei dad caiff ei urddo flwyddyn

Darllenwch Mwy…

Diwrnod o Ddawns Llangadfan 2017

by Luke James Evans

Cynhelir Diwrnod o Ddawns Llangadfan eleni ar ddydd Sadwrn 17eg Mehefin yn y Cann Offis, Llangadfan. Trefniadau fel arfer: gwelwch y daflen ynghlwm.  Bydd prydiau bar i gael i’w harchebu ar y diwrnod. Dewch yn llu! Cliciwch y ddelwedd i’w chwyddo.

Parti Penfro Pat Shaw

by Luke James Evans

Yn ystod 2017 mae Cymdeithas Genedlaethol Dawns Werin Cymru yn dathlu Canmlwyddiant geni Patrick Noel Shuldham-Shaw 1917-1977 Fel rhan o’r “Dathlu ym Mhob Cwr o Gymru” fe’ch gwahoddir i ymuno â ni yn nathliadau Sir Benfro i anrhydeddu Padrig Farfog ( i roi iddo ei enw barddol) am ei gyfraniad i Ddawnsio Gwerin yng Nghymru.

Darllenwch Mwy…

Robert Pyves

by Luke James Evans

Yn ddiweddar by farw Robert Pyves, un o hoelion wyth Dawyswyr Penyfai. Roedd Rob bob amser yn barod a’i gymwynas ac yn hynod ffyddlon i’r tim. Bydd colled enfawr ar ei ol. Cydymdeimlwn gyda chariad ag Ariadna ei weddw a gweddill ei deulu

Teyrnged Eddie Jones gan Rhodri Jones

by Luke James Evans

Eddie Jones Roedd enw Eddie yn atsain trwy alawon y ddawns werin am flynyddoedd cyn i mi gwrdd â’r bonheddwr o Bow Street. Yn wir bu mi’n gofyn am amser “Pwy yw Eddie Jones?” Rhyfyg fy ieuenctid a’m hanwybodaeth am gewri’r arloeswyr cynnar. Mae’n debyg fod Eddie wedi clywed hyn ac yn Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn

Darllenwch Mwy…