Dathliad Diemwnt

Mae’r Gymdeithas yn 75 eleni a byddwn yn dathlu trwy gynnal Cinio a Dawns ar nos Sadwrn, 28 Medi yng Ngwesty’r Metropole, Llandrindod.

Prisiau

Mae’r prisiau’r ystafelloedd isod am ystafell ddwbl/twin arferol, ac yn cynnwys y cinio nos Sadwrn. Codir mwy am ystafell sengl, neu ystafell fwy moethus.

  • 2 noson (27 a 28 Medi) gwely a brecwast – £170 y pen
  • 1 noson (28 Medi) gwely a brecwast – £92.50 y pen
  • Cinio yn unig – £33 y pen

Telir blaendal o £20 y pen wrth archebu ystafell.

Archebu

Cysylltwch yn uniongyrchol â’r gwesty i archebu ystafell/cinio – gan ddyfynnu’r cod: 1958

E-bost: reception@metropole.co.uk
Ffôn: 01597 823700