Fel rhan o ddigwyddiadau dathlu’r Gymraeg Shwmae Su’mae bydd Clwb Clocsio newydd yn dechrau yn Theatr Felinfach. Bydd y Clwb yn cael ei lansio dydd Mercher 15 Hydref, 5.30yh yn y theatr ac mae’n agored i blant 7-13 oed ac yn digwydd yn wythnosol.

image003

“Mae clocsio’n ffordd grêt o gadw’n ffit ac mae’n sbort hefyd” medd Morys Ioan, y tiwtor fydd yn arwain y sesiynau, “Rwy’n falch iawn bod rhaglen ddawns BRASGAM yn cynnig y sesiynau yma yn Theatr Felinfach”.

Am wybodaeth bellach a chofrestru, cysylltwch â Catherine Young, catherine.young@ceredigion.gov.uk, bydd y sesiynau wythnosol yn para 45 munud, yn costio £3 a does dim angen clocsiau arbennig! Croeso i bawb.