Croeso i hanner canfed Ŵyl Ifan – a’r Ŵyl olaf!
Mae’n bleser mawr ein bod yn dathlu 50 mlynedd o Ŵyl Ifan eleni — ac, fel y penderfynwyd, dyma fydd yr Ŵyl olaf o’i math. Dewch i ymuno â ni ar Ddydd Sadwrn, 27 Mehefin ar gyfer diwrnod o draddodiad, dawns a dathlu.
Beth sy’n digwydd?
Bore
Codi’r Pawl Haf yn Sain Ffagan
Prynhawn
Dawnsio mewn sawl lleoliad ar draws y ddinas
Cinio a chludiant
Am ddim fel arfer, diolch i nawdd Cymdeithas Ddawns Werin Cymru.
Taplas Bach
Nos Sadwrn yng Nghlwb Rygbi’r Eglwys Newydd, gan gynnwys pryd o fwyd a chyfle i ddawnsio eich hoff ddawnsfeydd — am y hanner canfed tro!
Noson Gymdeithasol
Nos Wener yn y Stiwt, Llandaf, i groesawu’r rhai sy’n cyrraedd yn gynnar
Pam mor arbennig yw eleni?
Rydym yn gobeithio denu cynifer â phosib o ddawnswyr a cherddorion o bob rhan o Gymru i sicrhau dathliad teilwng, llawn hwyl, i ŵyl sydd wedi bod yn gonglfaen i’n traddodiadau ers hanner canrif.
Er mai hon yw’r Ŵyl Ifan olaf, bydd Cwmni Dawns Werin Caerdydd yn parhau i nodi’r dyddiad bob blwyddyn drwy gynnal diwrnod o ddawns, gyda chroeso cynnes i bawb — hen gyfeillion a newydd.
Cofiwch wirio eich e-bost
Mae llythyr wedi’i anfon at bob tîm yng Nghymru. Os nad ydych wedi’i dderbyn, edrychwch yn eich ffolder junk/spam.
Os nad yw yno, cysylltwch â: Dai James
