Diwrnod llawn egni, rhythm a llawenydd yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol!

Bydd y dathliadau’n cychwyn gyda gorymdaith fawreddog yn cychwyn o’r Brif Fynedfa yn brydlon am 10:30am. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyrraedd yn gynnar i fod yn rhan o’r orymdaith fywiog a lliwgar hon, gan osod y naws ar gyfer diwrnod llawn o ddawnsio a dathlu.

Mae’n mynd i fod yn ddiwrnod cofiadwy, ac edrychwn ymlaen i’ch gweld chi gyd yno, yn dawnsio’ch calon allan ac yn mwynhau’r awyrgylch bywiog.

Digwyddiad dan nawdd Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a Chymdeithas Ddawns Werin Cymru