Cymdeithas Ddawns
Werin Gymru
Welsh Folk Dance Society
Llywyddes – President : Mrs. Lois Blake.
Cadeirydd – Chairman
Mr. W. S. Gwynn Williams,Glas Hafod, Llangollen.
Trysoryd – Treasurer
Mr. W. E. Cleaver, Abernant, Bodfari, Nr. Denbigh.
Trefnydd – Organiser
Mrs. Lois Blake, Tafarn-y-Pric, Corwen.
Golygydd – Editor
Mr. lfan O. Williams, B.B.C., Bangor.
Ysgrifennydd – Secretary
Miss E. Daniels Jones, Dinas, Greenfield Road, Ruthin.
Pwyllgor Gwaith – Executive Committee:
Miss Cassie Davies, H,M.I.
Miss Gwennant Davies, Aberystwyth.
Mrs. Irene Edwards, Bettws-Y-Coed.
Miss D. Freeman, Newport.
Mr. Redvers Jones, Llangefni.
Miss S. Storey Jones, Mold.
Mr. Teifryn Michael,
Aberystwyth. Dr. lorwerth Peate, Cardiff.
Mrs. Marjorie Pierce, Llangollen.
Mrs. Gwenllian Roberts, Corwen
Miss Nest Pierce Roberts, Llangadfan.
Miss A. Rogers, H.M.I.
Miss Gwen Taylor, Wrexham.
Alderman Margaret Williams. St, Asaph.
Mewn cyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd yng Nghastell Amwythig, ddydd Sadwrn, Gorffennaf 23ain, 1949, ffurffwyd Cymdeithas Ddawns Werin Cymru.
Penderfynwyd ar y Cyfansoddiad yma.
Enw’r Gymdeithas fydd “Cymdeithas Ddawns Werin Cymru.”
Amcan y Gymdeithas yw astudio a gwneuthir yn hysbys yr hyn a wyddis eisoes am y ddawns werin Cymreig ; unoli y gwaith a wneir ynglyn a’r ddawns werin , a threfni ymchwil pellach.
Aelodau’r Gymdeithas i dalu o leiaf 5/- yn y flwyddyn, ac aelodau am oes I gyfrannu rhodd heb fod yn llai na £5.
Bydd gan bob aelod hawl i fod yn bresennol ymhob Cyfarfod Cyffredinol o’r Gymdeithas, ac i bleidleisio ynddo. Pan fo aelod yn esgeuluso talu ei gyfraniadau derfydd ei aelodaeth.
Swyddogion y Gymdeithas fydd : Llywydd, Is-lywydd, Cadeirydd, Trefnydd, Trysorydd, Golygydd ac Ysgrifennydd, ac etholir hwynt o newydd bob blwyddyn trwy bleidlais ddirgel yng Ngharfod Blynyddol y Cymdeithas.
Trefnir gweithrediadau’r Gymdeithas gan Bwyllgor Gwaith yn cynnwys Swyddogion (ar wahan i’r Llywydd, a’r Is-lywyddion) ynghyd a deuddeg aelod arall a etholir trwy bleidlais ddirgel yn y Cyfarfod Blynyddol. Bydd gan y Pwyllgor Gwaith hawl i gyfethol tri aelod yn ychwanegol.
Gwneir archwiliad o dderbyniadau a thaliadau’r Gymdeithas gan archwiliwr a benodir yn y Cyfarfod Blynyddol.
Mewn Cyfarfod Cyffredinol o aelodau’r Gymdeithas yn unig y gellir newid y Cyfansodiad hwn, a hynny ar argymhelliad o’r Pwyllgor Gwaith.