Posts from 2017

6 Items

Diwrnod o Ddawns Llangadfan 2017

Cynhelir Diwrnod o Ddawns Llangadfan eleni ar ddydd Sadwrn 17eg Mehefin yn y Cann Offis, Llangadfan. Trefniadau fel arfer: gwelwch y daflen ynghlwm.  Bydd prydiau bar i gael i’w harchebu ar y diwrnod. Dewch yn llu! Cliciwch y ddelwedd i’w chwyddo.

Parti Penfro Pat Shaw

Yn ystod 2017 mae Cymdeithas Genedlaethol Dawns Werin Cymru yn dathlu Canmlwyddiant geni Patrick Noel Shuldham-Shaw 1917-1977 Fel rhan o’r “Dathlu ym Mhob Cwr o Gymru” fe’ch gwahoddir i ymuno â ni yn nathliadau Sir Benfro i anrhydeddu Padrig Farfog ( i roi iddo ei enw barddol) am ei gyfraniad i Ddawnsio Gwerin yng Nghymru.

Darllenwch Mwy…

Robert Pyves

by Luke James Evans

Yn ddiweddar by farw Robert Pyves, un o hoelion wyth Dawyswyr Penyfai. Roedd Rob bob amser yn barod a’i gymwynas ac yn hynod ffyddlon i’r tim. Bydd colled enfawr ar ei ol. Cydymdeimlwn gyda chariad ag Ariadna ei weddw a gweddill ei deulu