Cliciwch yma i lawrlwytho Traciau MP3 : Traciau ymarfer Urdd 2018
Hyd y dawnsiau
Mae’r cyfarwyddiadau yn nodi’r nifer o droeon y caiff Y Cwac Cymreig, Dawns Bryn-y-Môr a Melin Crawia eu dawnsio. Mae trac ymarfer Dawns Gwŷr Gwrecsam yn mynd trwy’r ddawns 4 gwaith, ond gellid ei dawnsio unrhyw nifer o droeon.
Ail alawon
Mae traciau Dawns Gwŷr Wrecsam, Y Cwac Cymreig a Dawns Bryn-y-Môr yn cynnwys ail alaw. Gellid defnyddio alawon eraill addas, ond nid oes rheidrwydd i ddewis ail alaw o gwbwl.
Mae rheolau adran Dawnsio Gwerin yr Urdd i’w gweld ar dudalen 50 rhestr testunau 2018.
Trac 1: Dawns Gwŷr Gwrecsam
- Dawns Werin Bl.4 ac iau
Alawon: Pibddawns Gwŷr Wrecsam, Pwt ar y Bys
Hyd: 4 gwaith, 2’30”
Trac 2: Y Cwac Cymreig
- Dawns Werin Bl.6 ac iau (Ysgolion hyd at 100 o blant rhwng 4-11 oed)
Alawon: Y Cwac Cymreig, Tomos Dafydd Ifan
Hyd: 3 gwaith, 1’49”
Trac 3: Dawns Bryn-y-Môr
- Dawns Werin Bl.6 ac iau (Ysgolion dros 100 o blant rhwng 4-11 oed ac Adrannau)
Alawon: Glandyfi, Doed a Ddêl
Hyd: 4 gwaith, 2’15”
Trac 4: Melin Crawia
- Dawns Werin Bl.7, 8 a 9
Alaw: Breuddwyd y Frenhines
Hyd: 3 gwaith, 1’55”