Cynhelir y 49fed Gŵyl Ifan ar ddydd Sadwrn, 21 Mehefin, gyda noson gymdeithasol ar y nos Wener.
Bydd dawnsio trwy’r dydd ar y dydd Sadwrn, gyda’r Taplas Bach nos Sadwrn. Rydym yn gobeithio codi’r Pawl Haf yn Sain Ffagan a dawnsio ychydig yno, fel yn y cwpl o flynyddoedd cynt.
Rydym yn falch o ddweud y bydd yn bosib i ni gynnig cinio a chludiant am ddim, diolch unwaith eto i haelioni Cymdeithas Ddawns Werin Cymru.
Mwy o wybodaeth: gwylifan@gmail.com
