Grant i gefnogi a datblygu

by Dawnsio

Mae Cymdeithas Ddawns Werin Cymru yn awyddus i gefnogi pob grŵp dawnsio gwerin traddodiadol a helpu i sicrhau bod ein traddodiadau’n parhau i ffynnu. Un ffordd o wneud hynny yw trwy gynnig grant cefnogi a datblygu. Ceir manylion pellach ac arweiniad isod. Os yw’r wybodaeth yn berthnasol i’ch tîm anfonwch e-bost at ysgrifennydd@dawnsio.cymru er mwyn

Darllenwch Mwy…

Gŵyl Tredegar House Folk Festival

by Dawnsio

Mae Gŵyl Tŷ Tredegar bron â chyrraedd! Bydd penwythnos Mai 6-8ed yn llawn dop o fwrlwm gwerinol ac mae amrywiaeth eang o grwpiau dawnsio gwerin yn rhan o’r arlwy. Ymysg grwpiau rhyngwladol o Latvia a Bwlgaria bydd amrywiaeth o arddulliau dawns eraill i’w gweld hefyd, gan gynnwys timoedd dawnsio gwerin Cymreig Cwmni Gwerin Pont-y-pwl, Dawnswyr

Darllenwch Mwy…

Gŵyl Ifan

by Dawnsio

Y bwriad yw, os yw’r rheolau’n caniatau, i fwrw ymlaen gyda chynnal Gŵyl Ifan ar ddydd Sadwrn, Mehefin 25 yn 2022. Felly, cadwch y diwrnod er mwyn i ni gwrdd unwaith eto i ddawnsio o dan y Pawl Haf (a’r haul?!).

Yn galw’n holl ddawnswyr… wnewch chi rannu eich barn?

by Dawnsio

Annwyl gyd-ddawnswyr, Mae Menter Iaith Maldwyn, Yr Eisteddfod Genedlaethol a phartneriaid eraill yn cyflwyno cais i’r Cyngor Celfyddydau am brosiect i hyrwyddo Dawns Draddodiadol yng Nghymru. Rydan ni angen eich cymorth chi. Isod mae dau holiadur – un ar gyfer grwpiau dawns ac un ar gyfer unigolion sy’n dawnsio. Mae angen i ni gasglu tystiolaeth

Darllenwch Mwy…

Eisteddfod “AmGen” National Eisteddfod

by Dawnsio

Efallai nad oes modd i ni ymweld â maes unrhyw eisteddfod yr haf hwn eto, ond mae arlwy ar-lein Eisteddfod AmGen yma i’n diddanu. Gellir gweld yr amserlen lawn isod a dyma fanylion y gweithgareddau a’r cystadlaethau sy’n ymwneud â dawnsio traddodiadol. Mwynhewch! 1-8-2021 @12:20 Tudur Phillips yn perfformio gyda Gwilym Bowen Rhys ac Irfan Rais

Darllenwch Mwy…

Dawns y Cyfnod Clo – Lockdown Dance

by Dawnsio

Yn Rhagfyr 2020, cyhoeddwyd Alison Allen fel enillydd y gystadleuaeth cyfansoddi dawns. Gyda thimoedd dawns yn dechrau cyfarfod unwaith eto, rydym yn medru rhannu copi electronig o’r ddawns gyda chi. Enw’r ddawns erbyn hyn yw ‘Dawns y Swigen – The Bubble’ ac mae’n galluogi chwe dawnsiwr o bedair aelwyd i gyd-ddawnsio a chadw at reolau

Darllenwch Mwy…

Diweddariad – Eisteddfod AmGen

by Dawnsio

Gweler isod ddiweddariad oddi wrth yr Eisteddfod Genedlaethol o ran dyddiad cau cystadlaethau torfol: “Gyda chyfyngiadau COVID yn llacio ychydig yng Nghymru, a rhagor o bobl yn cael dod at ei gilydd, ry’n ni wedi penderfynu ymestyn y dyddiad cau ar gyfer cystadlaethau torfol eleni. Mae nifer ohonoch chi wedi cysylltu i ddweud ei bod

Darllenwch Mwy…

Dyddiadau cau Eisteddfod AmGen 2021

by Dawnsio

Neges atgoffa Dyddiad cau cystadlaethau unigol a deuawdau/triawdau Eisteddfod AmGen 2021 @17:00 ar 17/5/2021. Dyddiad cau cystadlaethau torfol 1/6/2021. Cliciwch ar y ddolen am gyfarwyddiadau pellach: https://mailchi.mp/eisteddfod/cystadlaethau_dawns Pob lwc bawb!

Neges Atgoffa – Reminder

by Dawnsio

Neges i’ch hatgoffa fod dyddiad cau cyflwyno darnau ar gyfer ‘Dawns’ yn prysur agosáu! Os oes gennych erthygl ddifyr, hanesyn neu newyddion amdanoch eich hunain – neu eich tîm/grŵp a’i aelodau cofiwch gyflwyno erbyn Mai 31. Bydd Bobbie a Dafydd Evans, golygyddion rhifyn ‘Dawns 2021’ yn falch iawn o’u derbyn. Cyfeiriad e-bost: Ffynnonlwyd@outlook.com  

Diweddariad Eisteddfod AmGen

by Dawnsio

Cyhoeddiad gan yr Eisteddfod Genedlaethol: Ymestyn dyddiad cau cystadlaethau torfol i 1 Mehefin “Gan fod canllawiau COVID diweddaraf y Llywodraeth yn caniatáu i weithgareddau dan do ail-gychwyn ar 17 Mai, rydym wedi penderfynu ymestyn dyddiad cau cofrestru rhai o gystadlaethau torfol Eisteddfod AmGen i ddydd Mawrth 1 Mehefin, 5yh.  Bydd hyn yn rhoi cyfle i

Darllenwch Mwy…