Mae Gŵyl Ifan yn dychwelyd i Gaerdydd a’r ardal eleni – am fanylion pellach, darllenwch ymlaen…

Bydd noson i groesawu ar nos Wener, 23ain Mehefin, yn y Stiwt yn Llandaf o 7.30yh tan yr hwyr. Bydd bwffe bys a bawd ar gael.

Dydd Sadwrn, byddwn yn dechrau, fel llynedd, wrth godi’r Pawl yn Sain Ffagan ac yn dawnsio ychydig yna, cyn ymadael am y Tŷ Nant yn Pentrepoeth (tu fas i Radur) i ginio. Ymlaen wedyn i ddawnsio yn nhafarn y Groeswen, ger Nantgarw, un o leoliadau gwreiddiol Gŵyl Ifan. Byddwn yn darparu cludiant i’r rhai sydd eisiau, fel llynedd. Bydd y bws yn dechrau o Gerddi Soffia/Gwesty’r Village, neu Llandaf, yn dibynnu ar yr angen, ar y ffordd i Sain Ffagan.

Ar gyfer y Taplas Bach yn y nos, byddwn yn ymweld â neuadd Clwb Rygbi yr Eglwysnewydd i wledda a dawnsio. Cofiwch wneud eich trefniadau aros ar gyfer yr ŵyl – gellir cael syniadau gwestai oddi wrth y trefnwyr os oes angen.

Gobeithio’ch gweld chi yn yr Ŵyl eleni.