Eleni bu’n rhaid newid y dyddiad i dymor yr Hydref ac fe gynhelir yr Ŵyl ddydd Gwener, Hydref 7fed hyd at y 9fed. Fel arwydd o’n hyder yn y dyfodol, a’n galllu i gynnal Gŵyl heb unrhyw rhwystredigaethau penderfynwyd y byddem yn ymestyn y dawnsio o gwmpas Porthcawl am ddiwrnod llawn ac i estyn gwahoddiad i dimoedd ac unigolion ar draws Cymru i ymuno a ni yn y digwyddiad. Mae croeso i chi ymunoâ ni am y diwrnod yn unig, ond fe fydde croeso cynnes i chi iddod am y penwythnos hefyd.

Cynigir tocyn am dddim ar gyfer cyngerddau, gweithgareddau a gweithdai  dydd Sadwrn i bob un a ddaw i ddawnsio yn ogystal â thocyn am ddim ar gyfer Cyngherdd fawreddog nos Sawrn.

Yn ystod penwythnos yr Ŵyl mae llety rhad i’w gael nepell  o’r Hi-Tide, lle cynhelir yr Ŵyl, ar safle maes carafanau Trecco. Mae’n nhw’n garafanau moethus, cyfforddus gyda lle i wyth i gysgu. Petai chi’n penderfynnu gwneud hynny, archebwch garafan drwy Cwlwm Celtaidd gan ein bod yn cael gostyngiad ar y prysiau arferol.

Beth amdani?  Mae cymaint ohonom ni wedi ffeindio hi’n anodd i ddod nôl at ein gilydd wedi Covid, beth am ddodi Cwlwm Celtaidd  2022, Hydref 7fed i’r 9fed yn y dyddiadur ac anelu at ddod fel criw i ymuno yn yr hwyl!

 

Edrychwn ymlaen at eich cwmni