Glyn T JonesBonheddwr, cyfaill,- bonheddwr, beirniad,- bonheddwr, cyflwynydd, – bonheddwr, cadeirydd, – bonheddwr, llywydd.

I fi mae’r uchod yn cyfleu’r cyfan. Anodd yw dygymod â’i golled. Roedd Glyn T. yn un o’r dynion prin hynny y gellid ei alw’n ddyn y renaissance. Roedd ei ddiddordebau’n helaeth, yn ymestyn o’r injan stêm i bensaernïaeth capel ond nid yn y cyd-destunau hynny y des i i’w nabod a’i edmygu.

Y cof cyntaf sy’ da fi amdano yw’r llun yna ohono’n dawnsio Toby yn y ddawns Ffair Caerffili ar lwyfan tra’n dawnsio gyda Pharti Dawns Aelwyd Aberystwyth. Wedi hynny rwy’n credu i mi gystadlu yn ei erbyn yn Steddfod y Fflint nôl ym 1970. Ym myd y ddawns y ces i’r cyfle yn hwyrach i ddod i adnabod Glyn fel cyfaill a chydweithiwr. Bu’n aelod o Bwyllgor Gwaith y Gymdeithas o’r flwyddyn 1978 gan ddod yn – Is- gadeirydd ym 1988. Etholwyd e’n Gadeirydd ym 1993 a bu’n Gadeirydd gweithgar a doeth tan 2001. Bron degawd o ymroddiad a thrwy bob peth yn gadarn ei farn a diymhongar a bonheddig ei agwedd. Treuliodd gyfnod eto fel is-gadeirydd cyn cael ei anrhydeddu fel Llywydd y Gymdeithas yn 2010.

Bu hefyd yn feirniad Cenedlaethol ac Urdd a phob un o’i feirniadaethau yn grefft ynddynt eu hunain. Roedd yn graff yn ei sylwadau ac yn fodlon cadw at ei argyhoeddiadau am y ddawns doed a ddêl. Parod i dderbyn newidiadau, parod i dderbyn amrywiadau a dehongliadau newydd ond yn gadarn yn gred na ddylai’r ddawns werin wreiddiol gael ei boddi wrth ei llwyfannu neu ei haddasu ar gyfer gofynion cystadleuaeth. Ces hefyd y pleser o wrando arno’n llywyddu mewn eisteddfod, yn enwedig Steddfod Fawr Aberteifi, eisteddfod a oedd yn agos iawn at ei galon. Dyn ei filltir sgwâr oedd Glyn T a ymhyfrydai yn ei doniau a’i phobl. Fe welith y filltir sgwâr hefyd ei angen a bydd gagendor anodd ei lenwi ar ei ôl.

Y Bonheddwr Glyn T.