Newyddion

110 of 42 items

Gŵyl Ifan

by Dawnsio

Mae Gŵyl Ifan yn dychwelyd i Gaerdydd a’r ardal eleni – am fanylion pellach, darllenwch ymlaen… Bydd noson i groesawu ar nos Wener, 23ain Mehefin, yn y Stiwt yn Llandaf o 7.30yh tan yr hwyr. Bydd bwffe bys a bawd ar gael. Dydd Sadwrn, byddwn yn dechrau, fel llynedd, wrth godi’r Pawl yn Sain Ffagan

Darllenwch Mwy…

Dathlu bywyd Betty Davies

by Dawnsio

Mae 2023 wedi dod â newyddion trist i Gymdeithas Ddawns Werin Cymru. Mae un o’n haelodau oes hynaf a mwyaf ffyddlon, sy’n adnabyddus i’r mwyafrif ohonom fel “Betty” wedi marw. Yn y llun fe’i gwelir yn beirniadu cystadlaethau dawnsio Eisteddfod Aberystwyth gyda John Idris Jones a’r diweddar Geoff Jenkins, (cymerwyd y wybodaeth hon o gefn

Darllenwch Mwy…

Dawnsfeydd Urdd 2023

by Dawnsio

Mae’n ddechrau blwyddyn newydd ac felly mae golygon nifer o ysgolion, adrannau ac aelwydydd Urdd yn troi tuag at ymarferion eisteddfod. Ydych chi’n ystyried dysgu grŵp dawnsio gwerin i gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023? Wel beth am fynd amdani oherwydd mae Cymdeithas Ddawns Werin Cymru yma i’ch helpu! Eleni eto mae gennym

Darllenwch Mwy…

Coffa da am Rhiannon

by Dawnsio

Rhiannon Jenkins  (1946  – 2022) Merch o’r Wyddgrug oedd Rhiannon ac yn falch iawn o’i gwreiddiau. Wedi cyfnod yn y coleg ym Mangor, yn astudio cerdd dan arweiniad William Mathias a chyfnodau byr yng Nghefn Meiriadog a Rhydymwyn dychwelodd i fyw i’r Wyddgrug. Sefydlwyd Dawnswyr Delyn ym 1987 gan Geoff Jenkins ac wrth ei ochr

Darllenwch Mwy…

Grant i gefnogi a datblygu

by Dawnsio

Mae Cymdeithas Ddawns Werin Cymru yn awyddus i gefnogi pob grŵp dawnsio gwerin traddodiadol a helpu i sicrhau bod ein traddodiadau’n parhau i ffynnu. Un ffordd o wneud hynny yw trwy gynnig grant cefnogi a datblygu. Ceir manylion pellach ac arweiniad isod. Os yw’r wybodaeth yn berthnasol i’ch tîm anfonwch e-bost at ysgrifennydd@dawnsio.cymru er mwyn

Darllenwch Mwy…

Gŵyl Ifan

by Dawnsio

Y bwriad yw, os yw’r rheolau’n caniatau, i fwrw ymlaen gyda chynnal Gŵyl Ifan ar ddydd Sadwrn, Mehefin 25 yn 2022. Felly, cadwch y diwrnod er mwyn i ni gwrdd unwaith eto i ddawnsio o dan y Pawl Haf (a’r haul?!).

Yn galw’n holl ddawnswyr… wnewch chi rannu eich barn?

by Dawnsio

Annwyl gyd-ddawnswyr, Mae Menter Iaith Maldwyn, Yr Eisteddfod Genedlaethol a phartneriaid eraill yn cyflwyno cais i’r Cyngor Celfyddydau am brosiect i hyrwyddo Dawns Draddodiadol yng Nghymru. Rydan ni angen eich cymorth chi. Isod mae dau holiadur – un ar gyfer grwpiau dawns ac un ar gyfer unigolion sy’n dawnsio. Mae angen i ni gasglu tystiolaeth

Darllenwch Mwy…

Dyddiadau cau Eisteddfod AmGen 2021

by Dawnsio

Neges atgoffa Dyddiad cau cystadlaethau unigol a deuawdau/triawdau Eisteddfod AmGen 2021 @17:00 ar 17/5/2021. Dyddiad cau cystadlaethau torfol 1/6/2021. Cliciwch ar y ddolen am gyfarwyddiadau pellach: https://mailchi.mp/eisteddfod/cystadlaethau_dawns Pob lwc bawb!

Neges Atgoffa – Reminder

by Dawnsio

Neges i’ch hatgoffa fod dyddiad cau cyflwyno darnau ar gyfer ‘Dawns’ yn prysur agosáu! Os oes gennych erthygl ddifyr, hanesyn neu newyddion amdanoch eich hunain – neu eich tîm/grŵp a’i aelodau cofiwch gyflwyno erbyn Mai 31. Bydd Bobbie a Dafydd Evans, golygyddion rhifyn ‘Dawns 2021’ yn falch iawn o’u derbyn. Cyfeiriad e-bost: Ffynnonlwyd@outlook.com  

Eisteddfod AmGen

by Dawnsio

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi manylion cystadlaethau’r Eisteddfod Amgen a dim ond mis sydd nes y dyddiad cau: 17:00, 17eg Mai. Pump cystadleuaeth ddawns sydd yna (cystadlaethau 33 – 38) yn gymysgedd o ddawnsio unigol a grŵp. Cofiwch y medrwch ddefnyddio’r ddawns fuddugol a gyfansoddwyd gan Alison Allen ar gyfer cystadleuaeth Cymdeithas Eisteddfodau os ydych

Darllenwch Mwy…