Eirlys Britton o Gaerdydd yw enillydd Medal Goffa Syr T.H.Parry-Williams er clod eleni. Cyflwynir y Fedal yn flynyddol yn yr Eisteddfod i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad gwirfoddol yn eu hardal leol, gyda phwyslais arbennig ar weithio gyda phobl ifanc.
Mae Eirlys yn derbyn y Fedal am ei gwaith diflino yn ardal Pontypridd am gyfnod o dros ddeng mlynedd ar hugain. Yn wreiddiol o’r brifddinas, roedd Eirlys yn un o ddisgyblion cyntaf Ysgol Rhydfelen, Pontypridd, cyn graddio mewn Drama yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin. Bu’n athrawes egnïol a hynod ddylanwadol yn Ysgol Heol y Celyn ger Pontypridd, cyn ymuno â chast Pobol y Cwm, fel Beth Leyshon, am nifer o flynyddoedd.
Efallai bod Eirlys yn fwyaf adnabyddus am ei gwaith ym myd dawnsio gwerin, a chychwynnodd ei diddordeb yn y grefft tra’n athrawes ifanc yn Ysgol Heol y Celyn, lle roedd hefyd yn llwyddiannus fel hyfforddwraig llefaru (iaith gyntaf ac ail iaith), dawnsio a chaneuon actol. Arweiniodd y diddordeb hwn at greu Dawnswyr Nantgarw gyda chydweithwyr a staff yr ysgol yn 1980.
Bwriad Eirlys wrth sefydlu Dawnswyr Nantgarw oedd atgyfodi rhai o hen draddodiadau a dawnsfeydd Cwm Taf a Morgannwg i’r safon uchaf posibl a hynny wrth gynnwys pobl ifanc a oedd yn Gymry Cymraeg ac yn Gymry di Gymraeg. Bu’r ddawns yn gyfrwng delfrydol i bontio gwahaniaethau ieithyddol a chefndiroedd cymdeithasol, ac yn gyfle i feithrin cerddorion ifanc wrth eu hannog i ymuno gyda cherddorion profiadol Dawnswyr Nantgarw, gan gynnig cyfleoedd a phrofiadau cofiadwy wrth hyrwyddo traddodiad a chynrychioli’u gwlad.
Bu Eirlys hefyd yn gyfrifol am greu dawns ar gyfer seremoni’r Priflenor yn yr Eisteddfod Genedlaethol rai blynyddoedd yn ôl, ac ers hynny, mae’r ddawns hon wedi’i defnyddio bob blwyddyn, gan roi cyfle i ieuenctid dalgylch yr Eisteddfod ddangos eu doniau ar lwyfan y Pafiliwn a mynychu’r Eisteddfod.