Jennifer Maloney yn ennill Medal Goffa Syr T H Parry-Williams

Jennifer MaloneyJennifer Maloney o Llandybie, Sir Gâr, yw enillydd Medal Goffa Syr T.H.Parry-Williams yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Cyflwynir y Fedal yn flynyddol i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad gwirfoddol yn eu hardal leol, gyda phwyslais arbennig ar weithio gyda phobl ifanc.

Mae Jennifer Maloney yn adnabyddus i genedlaethau o Eisteddfodwyr ardal Sir Gâr, ac yn arbennig y rheiny sy’n byw yn ardal Rhydaman. Mae’i gwaith diflino a gofalus wedi bod yn allweddol wrth hybu’r iaith a diwylliant Cymraeg yn yr ardal, a hyn oll yn waith gwirfoddol am flynyddoedd lawer.
Jennifer a sefydlodd Aelwyd Penrhyd bron i ddeugain mlynedd yn ôl yn 1976, a braf yw gweld yr aelwyd hon yn parhau i fynd o nerth i nerth, gyda thros 70 o blant lleol o 4 oed hyd at 19 oed yn mynychu’n rheolaidd ac yn mwynhau pob math o weithgareddau.

Bu Jennifer yn hyfforddi cenedlaethau o bobl ifanc i gystadlu’n lleol a chenedlaethol ers blynyddoedd, gyda’i hymroddiad a’i gofal yn ysbrydoli’r cystadleuwyr gan eu hannog i wneud eu gorau bob tro. Nid hyfforddi unigolion y mae Jennifer ond yn hytrach arwain grwpiau mawr o blant a phobl ifanc, er mwyn sicrhau bod pawb yn cael cyfle i gymryd rhan yn y gweithgareddau.

Mae cysylltiad Jennifer â’r Eisteddfod Genedlaethol yn dyddio’n ôl i 1970, pan y’i dewisiwyd i wasanaethu fel Cyflwynydd y Flodeuged pan gynhaliwyd y Brifwyl yn Rhydaman. A phan gynhaliwyd yr Eisteddfod yn Sir Gâr unwaith eto y llynedd, Karen, merch hynaf Jennifer, oedd Mam y Fro, gydag un o aelodau Aelwyd Penrhyd yn Gyflwynydd y Flodeuged y tro hwn. Bu Jennifer hefyd yn brysur yn hyfforddi’r Macwyaid a merched y Ddawns Flodau wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer seremonïau’r Orsedd yn Llanelli.

Yn ddi-os, mae Jennifer wedi rhoi blynyddoedd lawer o wasanaeth i’r Pethe a dawnsio gwerin yn enwedig, yn ei milltir sgwâr, a thrwy’i gwaith, mae unigolion, grwpiau a phartïon o’r ardal wedi mwynhau llwyddiant ar lwyfannau’r ardal a chenedlaethol. Mae’i brwdfrydedd a’i chyfraniad yn crisialu amcanion Cronfa Goffa Syr T.H. Parry-Williams, a thrwy hynny, mae’n llawn haeddu derbyn y Fedal er clod eleni.

Bydd Jennifer yn derbyn y Fedal ar lwyfan y Pafiliwn yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau a gynhelir ym Meifod o 1-8 Awst eleni. Am ragor o wybodaeth am yr Eisteddfod ac i brynu tocynnau, ewch i www.eisteddfod.org.uk.