Efallai nad oes modd i ni ymweld â maes unrhyw eisteddfod yr haf hwn eto, ond mae arlwy ar-lein Eisteddfod AmGen yma i’n diddanu. Gellir gweld yr amserlen lawn isod a dyma fanylion y gweithgareddau a’r cystadlaethau sy’n ymwneud â dawnsio traddodiadol. Mwynhewch!

1-8-2021 @12:20 Tudur Phillips yn perfformio gyda Gwilym Bowen Rhys ac Irfan Rais

2-8-2021 @12:00 lawnsio cyfrif TikTok CDWC: https://vm.tiktok.com/ZMdv46JdR/

4-8-2021 @12:30 Panel trafod: “Beth ddaeth gyntaf? Y gân werin neu’r ddawns?” gyda John Idris yn cadeirio, yn nghwmni Prydwen Elfed Owens, Robin Huw Bowen, Selyf Edwards ac Eiry Hunter.

Cystadlaethau:

2-8-2021 – Unawd stepio dan 18 oed

4-8-2021 – Dawns stepio i grŵp

4-8-2021 – Dawns stepio i ddeuawdau a thriawdau

5-8-2021 – Unawd stepio 18 oed a throsodd

6-8-2021 – Grŵp dawnsio gwerin