Mae Gŵyl Tŷ Tredegar bron â chyrraedd!
Bydd penwythnos Mai 6-8ed yn llawn dop o fwrlwm gwerinol ac mae amrywiaeth eang o grwpiau dawnsio gwerin yn rhan o’r arlwy. Ymysg grwpiau rhyngwladol o Latvia a Bwlgaria bydd amrywiaeth o arddulliau dawns eraill i’w gweld hefyd, gan gynnwys timoedd dawnsio gwerin Cymreig Cwmni Gwerin Pont-y-pwl, Dawnswyr Blaenafon, Dawnswyr Penyfai a Gwerinwyr Gwent. Yn naturiol, bydd amrywiaeth o fandiau gwerinol i’w clywed, gyda bandiau megis Avanc, Calennig, Mansant a’r enwog Calan yn sicrhau bod alawon Cymreig yn cael eu lle. Er mwyn archebu tocyn a chael manylion llawn ewch i wefan Gŵyl Tredegar House Folk Festival, ac mae tudalen benodol i’r dawnsio yma.