Mae Cymdeithas Ddawns Werin Cymru yn awyddus i gefnogi pob grŵp dawnsio gwerin traddodiadol a helpu i sicrhau bod ein traddodiadau’n parhau i ffynnu. Un ffordd o wneud hynny yw trwy gynnig grant cefnogi a datblygu. Ceir manylion pellach ac arweiniad isod. Os yw’r wybodaeth yn berthnasol i’ch tîm anfonwch e-bost at ysgrifennydd@dawnsio.cymru er mwyn cael gafael ar ffurflen gais.

Canllawiau ar gyfer ceisio am grant CDdWC – Mai 2019

Cynigir y grant i bartïon o ddawnswyr cymysg, h.y. bechgyn a merched, sydd yn hyrwyddo dawnsio gwerin a chlocsio.

  • Yn ddelfrydol cynigir y grant i grŵp o bobl ifanc, ond fe fydd aelodau o bwyllgor gwaith y Gymdeithas a fydd yn ystyried pob cais, yn hyblyg wrth weithredu;
  • Caiff yrymgeiswyr llwyddiannus help a chyngor i sefydlu parti dawns a swm dechreuol fel grant;
  • Darperir uchafswm o £500 am bob cais, ond gellid gwneud cais ychwanegol yn yr ail flwyddyn,os bydd mwy o angen gan fenter sydd yn ffynnu;
  • Gwneir taliadau o flaen llaw am rywbeth pendant e.e. llogi neuadd,costau cyffredinol ayb
  • Gellir ystyried grant i helpu gyda gwisgoedd – ond nid i dalu am set llawn o wisgoedd na chlocsiau. Yn y cyswllt hwn, gellid edrych ar system o ariannu cyfatebol (matchfunding)
  • Cynigir mentor lleol i gefnogi a chynnig arweiniad i arweinydd / arweinwyr y grŵp
  • Dylai’r grŵpiau fod yn aelodau o Gymdeithas Ddawns Werin Cymru;
  • Bydd angen tystiolaeth o ymroddiad i gychwyn parti a chynllun i gwrdd i ymarfer yn rheolaidd.

Am sgwrs anfurfiol a mwy o fanylion, cysyllter â Chadeirydd Cymdeithas Ddawns Werin Cymru :   Dr. John Idris Jones ar 07495806077 .