Rhiannon Jenkins (1946 – 2022)
Merch o’r Wyddgrug oedd Rhiannon ac yn falch iawn o’i gwreiddiau. Wedi cyfnod yn y coleg ym Mangor, yn astudio cerdd dan arweiniad William Mathias a chyfnodau byr yng Nghefn Meiriadog a Rhydymwyn dychwelodd i fyw i’r Wyddgrug.
Sefydlwyd Dawnswyr Delyn ym 1987 gan Geoff Jenkins ac wrth ei ochr bob amser yn cyfeilio oedd ei wraig Rhiannon. Mae’n rhyfeddod i mi bob amser pa mor amyneddgar ydy ein cyfeilyddion, yn arbennig mewn ymarferion, yn mynd dros yr un darnau drosodd a throsodd. Doedd Rhiannon ddim yn eithriad yn hynny o beth. Bu’n cyfeilio ar yr acordion yn bennaf a hefyd y piano i Ddawnswyr Delyn yn ogystal â grwpiau ac unigolion yn yr ysgol. Fel pennaeth cerdd yn Ysgol Maes Garmon roedd Eisteddfodau bob amser yn adegau prysur ac roedd Rhiannon yn mwynhau bod ynghanol y ‘pethau’, er o bosib fel nifer, ddim mor hapus efo rhagbrofion cynnar. Roedd ganddi bob amser banana yn ei bag er mwyn rhoi mwy o egni.
Bu’n cyfeilio i nifer o unigolion a chafodd cryn lwyddiant, yn eu plith ei merched ei hun Meinir a Tanwen, hefyd Alaw Lewis, Angharad a Bethan James.
Cawsom lawer o hwyl yn dawnsio’n lleol, teithio i wyliau neu’n teithio tramor. Roedd Gŵyl Ifan yn ffefryn ac ar ôl i amgylchiadau ei stoRoedd hi’pio rhag mynychu roedd hi bob amser yn awyddus i glywed yr hanes a dal fyny efo newyddion pobl.
Daeth ambell i gyfle anarferol- pwy all anghofio dawnsio Llanofer mewn clocsiau i lawr stryd ‘cobble’ yn Nantes (peidiwch â gofyn!) yn dilyn bagad a Rhiannon ar y blaen. Dw i’n cofio clocswyr Maes Garmon yn gorymdeithio i lawr canol eglwys yr Wyddgrug a Rhiannon yn eu harwain ar yr acordion – sŵn bendigedig ar y llawr teils. Daeth ambell i berfformiad serol arall fel dawnsio ar y prom yn y Rhyl a phobl yn pasio yn eu bicinis yn syllu’n syn ar y bobl yn dawnsio mewn brethyn.
Yn dilyn marwolaeth Geoff yn 2004 dychwelodd Rhiannon i gyfeilio i Ddawnswyr Delyn am gyfnod. Cafodd gyfle gwych hefyd i deithio i Dde Corea efo Dawnswyr Nantgarw lle’r oedd Meinir yn dawnsio – profiad roedd hi wir wedi mwynhau.
Yn dilyn damwain car yn y blynyddoedd diwethaf a difrod i’r nerfau yn ei braich collodd Rhiannon gryfder yn ei llaw chwith oedd yn golygu nad oedd yn medru canu’r piano na’r acordion. Roedd hi’n rhwystredig iawn ynglŷn â hyn ond parhaodd ei diddordeb yn y pethau ac roedd wrth ei bodd yn dal fyny efo newyddion pobl.
Y dôn ddaeth i dywynnu – ohonot
A’i hynni’n byrlymu.
Dy afiaith dros heniaith sy’
Yn y gân, yn y gwenu.