Ar ôl 50 mlynedd o draddod, dawns a dathliadau, mae Gŵyl Ifan yn paratoi ar gyfer ei thro olaf.
Eleni, bydd dawnswyr a cherddorion o bob cwr o Gymru yn dod ynghyd yng Nghaerdydd i nodi penllanw cyfnod arbennig yn hanes dawnsio gwerin. Fel bob amser, mae’r Gymdeithas Ddawns Werin Cymru yn falch o gefnogi’r digwyddiad drwy noddi’r cinio a’r cludiant, gan sicrhau bod y dathliad olaf hwn mor gynhwysol ac mor hwylus â phosib i bawb sy’n cymryd rhan.
Ar ddydd Sadwrn, 27 Mehefin 2026 gyda chodi’r Pawl Haf, dawnsio drwy’r ddinas a Taplas Bach i gloi’r noson, mae’r rhaglen yn adlewyrchu popeth sydd wedi gwneud yr Ŵyl yn gonglfaen o’n calendr ers degawdau. Mae’r Gymdeithas yn annog aelodau, cefnogwyr a’r cyhoedd ehangach i ymuno â’r dathliadau ac i ddarganfod mwy am yr hyn sydd ar y gweill ar dudalen y digwyddiad.
